Roedd un ymhob pump o oedolion Prydain wedi bod mewn cysylltiad â rhywun nad oedd o’u haelwyd na’u swigod ar ddechrau mis Tachwedd, yn ôl arolwg.
Dywedodd tua 22% o’r oedolion a holwyd eu bod wedi cael cyswllt corfforol ag o leiaf un person arall wrth gymdeithasu dan do yn ystod y 24 awr flaenorol, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Roedd hyn mewn lleoliadau megis cartrefi preifat, caffis, tafarndai neu fwytai, ac mae’n gyfran debyg i’r wythnos flaenorol (24%).
Holodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr oedolion am eu hymddygiad rhwng Tachwedd 5 ac 8 fel rhan o’i Arolwg Barn a Ffordd o Fyw, gan dderbyn 4,378 o ymatebion.
Mae negeseuon iechyd y cyhoedd drwy gydol pandemig y coronafeirws wedi cynghori pobl i geisio cadw pellter oddi wrth bobol nad ydynt yn eu haelwyd neu eu swigen.
Gofynnwyd i bobl am eu hymddygiad dros y 24 awr ddiwethaf, felly mae’r data hefyd yn cwmpasu’r diwrnod cyn i Loegr ddechrau ei fis o gyfnod clo.
Y ganran yn uwch ymysg pobol ifanc
O’r 4,190 o ymatebwyr yn Lloegr, dywedodd 19% eu bod wedi cael cyswllt uniongyrchol â rhwng un a phump o bobl nad oeddent yn eu cartref, neu swigen, wrth gymdeithasu dan do.
Gall enghreifftiau o gyswllt corfforol uniongyrchol gynnwys ysgwyd neu ddal dwylo, cydio, a chysylltu wrth basio gwrthrychau, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Chwarter (25%) o oedolion 50-69 ddywedodd eu bod wedi bod mewn cysylltiad corfforol wrth gymdeithasu dan do gyda rhywun nad oedd yn rhan o’u haelwyd na’u swigen.
Y rhai 70 oed a throsodd oedd leiaf tebygol o fod wedi bod mewn cysylltiad â phobol y tu allan i’w haelwyd a swigen (17%), tra bod 23% o bobl ifanc 16 i 29 oed wedi cyfaddef i wneud hynny.
Gofynnwyd i ymatebwyr hefyd faint o bobl y tu allan i’w cartref neu swigen yr oedden nhw wedi bod mewn cysylltiad gydag yn ystod y 24 awr ddiwethaf.
Mae hyn yn cynnwys lleoliadau fel cartrefi preifat, siopa, caffis, tafarndai a bwytai.
Dywedodd tua 30% eu bod wedi bod mewn cysylltiad gydag o leiaf un person.