Mae academydd yn Wrecsam o’r farn y gallai’r ffaith fod y rhaglen I’m a Celebrity, Get Me Out Of Here! yn cael ei ffilmio yng Nghymru eleni, arwain at ddenu mwy o dwristiaid i’r gogledd.

Fel arfer mae’r rhaglen boblogaidd yn cael ei ffilmio yn Awstralia – ond oherwydd y corona, maen nhw am gynnal y giamocs yng Nghastell Gwrych, ger Abergele yn Sir Conwy.

Mae’r gyfres yn cychwyn nos Sul, ac mae academydd sy’n arbenigwr ar Letygarwch, Twristiaeth a Rheoli Digwyddiadau, yn rhagweld y bydd yn golygu bod mwy yn dod yn ymwybodol o ogledd Cymru.

“Does dim amheuaeth y gall gweld ardaloedd mewn cyfresi teledu fel I’m A Celebrity… gael effaith fawr ar dwristiaeth – mewn gwirionedd, mae term penodol, ‘twristiaeth a ysgogir gan ffilmiau’, sy’n disgrifio’r effaith y gall yr amlygiad hwn ei chael,” meddai Dr Marcus Hansen o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam.

“Rydym wedi gweld rhai ardaloedd yn ailadeiladu eu diwydiant twristiaeth cyfan o ganlyniad i gael eu cynnwys ar y teledu neu mewn ffilm – mae gan Seland Newydd ddiwydiant twristiaeth gwerth biliynau o ddoleri o ganlyniad i [ffilm] Lord of the Rings, Mae Dulyn yn gweld miloedd o dwristiaid o ganlyniad i [ffilmio] Game of Thrones [yno].

“Hysbysebu am ddim”

Ychwanegodd Dr Marcus Hansen: “Darlledir y sioe i gynulleidfa ym Mhrydain yn unig, ond mae’n gyson yn un o raglenni mwyaf poblogaidd ITV, a bydd yr hysbysebu am ddim y bydd yn ei roi i ogledd Cymru yn amhrisiadwy.”