Mae tîm pêl-droed Abertawe’n gobeithio cael Andre Ayew a Marc Guehi yn ôl yn ffit i herio Sheffield Wednesday yn Stadiwm Liberty nos fory (nos Fercher, Tachwedd 25).
Cafodd y ddau eu hanafu yn ystod y gemau rhyngwladol diweddar, gan orfod colli’r gêm yn erbyn Rotherham dros y penwythnos.
Mae’r ddau wedi anafu llinyn y gâr.
“Rydyn ni’n obeithiol,” meddai’r rheolwr Steve Cooper.
“Mae’n dal yn aneglur.
“Rydyn ni’n gweithio’n galed i’w cael nhw’n barod, ond rydyn ni’n obeithiol.
“Mae’n anodd dweud.
“[Byddan nhw’n cael] diwrnod o adferiad heddiw ac mae’r ffisios yn gweithio’n galed.
“Rydyn ni’n dal i adfer ar ôl y penwythnos.”
Ben Cabango a Liam Cullen
Yn y cyfamser, mae’n dweud y bydd y clwb yn cymryd “un dydd ar y tro” wrth edrych ar ddatblygiad yr ymosodwr Liam Cullen.
Fe wnaeth e ddechrau gêm am y tro cyntaf yn erbyn Rotherham.
Ac mae Steve Cooper yn cymharu ei ddatblygiad â datblygiad un arall o’r chwaraewyr ifanc, Ben Cabango, sydd bellach yn dod yn rhan bwysig o’r tîm yng nghanol yr amddiffyn.
“O ran Ben Cabango, oedd ychydig yn iau na Liam [pan ddaeth i mewn i’r tîm], rydyn ni’n dal i eistedd gyda fe yn mynd trwy glipiau [fideo] o ran sut mae e’n gallu gwella,” meddai.
“Mae hynny’n parhau am amser hir.
“Gam wrth gam yw hi gyda’r bois ifanc, ac mae’n rhaid i chi eu cefnogi nhw ar y diwrnodau da a’r diwrnodau drwg.
“Mae ganddyn nhw agwedd arbennig.
“Rydych chi wir eisiau eu helpu nhw oherwydd maen nhw’n helpu eu hunain.
“Chwarae teg i’r Academi, maen nhw’n cynhyrchu chwaraewyr da iawn, a chymeriadau da hefyd.”