Wrth i’r Cymry orffen y flwyddyn gyda dwy fuddugoliaeth a dyrchafiad, mae Malcolm Allen yn ymfalchïo yn “ysbryd a hyder” y garfan…

Ar ôl i rediad diguro tîm pêl-droed Cymru mewn gemau cystadleuol barhau yng Nghynghrair y Cenhedloedd, mae’r sylwebydd a chyn-ymosodwr Cymru, Malcolm Allen, yn dweud bod y tîm “wedi ffeindio ffordd o guro gemau.”