Mae rheolwr Abertawe, Steve Cooper, wedi datgelu ei fod wedi ysgrifennu at FA Lloegr i gwyno am y dyfarnwr Andy Woolmer cyn ei gem gyfartal yn erbyn Sheffield Wednesday nos Fercher (Tachwedd 25).

Roedd diwedd dadleuol i’r gêm, gyda’r Elyrch yn teimlo dylen nhw wedi cael cic o’r smotyn ac y dylai gôl fuddugol Kasey Palmer wedi sefyll.

Rhoddodd Andy Woolmer gic rydd i Sheffield Wednesday.

“Roedd un peth yn sicr, beth bynnag oedd y penderfyniad, doedd o ddim yn mynd o’n plaid ni,” meddai Cooper.

“Mae’n anffodus.

“Mae’n debyg mai chwibanu am drosedd ar y gôl-geidwad wnaeth o. Pob lwc wrth ysgrifennu am hwnnw, beth bynnag oedd o.

“Ond dyma’r perfformiad roeddwn wedi ei ragweld gan y dyfarnwr a siaradais â’r corff llywodraethu ynghylch y peth ychydig ddyddiau’n ôl. Roedd fy rhagfynegiad yn gywir.”

Eglurodd Cooper ei fod yn “siarad ar y ffôn â’r FA” am Woolmer, oedd ddim wedi dyfarnu Abertawe’r tymor hwn ond oedd wrth y llyw am bump o’u gemau’r tymor diwethaf.

“Dydw i ddim eisiau dweud gormod, oherwydd rydyn ni’n gwybod pwy sy’n colli yn y sefyllfaoedd hyn, a fi a’r clwb sydd â dirwy.”

Roedd Abertawe’n teimlo bod chwaraewr wedi llawio’r bel yn y cwrt cosbi efo ychydig funudau’n weddill, ond cafodd Sheffield Wednesday gig o’r smotyn.

Awgrymodd Cooper hefyd y dylai gol Palmer fod wedi sefyll, wrth iddo daro’r bel i mewn i’r rhwyd ychydig eiliadau ar ôl i Woolmer chwythu’r chwiban.