Mae Clwb Rygbi Caerfaddon wedi cadarnhau y bydd 2,000 o gefnogwyr yn cael gwylio gêm Scarlets yn erbyn Caerfaddon fis Rhagfyr.

Bydd Caerfaddon yn croesawu’r tîm o Lanelli ar Ragfyr 12 yng Nghwpan Pencampwyr Heineken.

Daw hyn wedi i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, gyhoeddi bydd hyd at 4,000 o bobol yn cael mynychu digwyddiadau chwaraeon yn Lloegr fis nesaf.

Ond dim ond aelodau o glwb Caerfaddon fydd yn cael mynychu’r gêm sy’n cael ei chware ar y Rec.

Does dim cadarnhad eto pryd fydd modd i dorfeydd ddychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon yng Nghymru.