Mae rhanbarth y Scarlets wedi penderfynu gohirio eu gêm yn erbyn Leinster ddydd Sul, Tachwedd 29, oherwydd achosion o’r coronafeirws o fewn y garfan.
Dyma’r gêm ddiweddaraf i gael ei gohirio yn y Pro14, bu rhaid i’r Dreigiau ohirio tair gêm a chau’r rhanbarth yn llwyr am bythefnos.
Teithiodd y Scarlets yn ôl o Ulster y penwythnos diwethaf ar ôl colli 26-24 yn Belfast.
Nid yw’r penderfyniad i ohrio gêm gartref y Scarlets yn effeithio ar drefniadau’r tîm cenedlaethol sydd yn croesawu Lloegr i Barc y Scarlets ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl i’r Sacarlets wynebu Caerfaddon yn ei gêm nesaf yng Nghwpan Pencampwyr Heineken ar Ragfyr 2, bydd hyd at 2,000 o gefnogwyr yn cael gwylio’r gêm honno.
“Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael, mae Grŵp Cynghori Meddygol Pro14 ar Rygbi wedi penderfynu na all y gêm hon fynd yn ei blaen,” meddai’r Pro14 mewn datganiad.
“Fe wnaeth Ulster, a chwaraeodd yn erbyn Scarlets ddydd Sul diwethaf, gynnal profion heddiw a bydd canlyniadau o fewn y 24 awr nesaf.
“Bydd y Pro14 yn edrych ar ddyddiadau posibl yn 2021 i aildrefnu’r gêm.”