Mae’r pêl-droediwr Diego Maradona wedi ei gladdu ger ei rieni mewn mynwent y tu allan i Buenos Aires.

Claddwyd yr arwr pêl-droed mewn seremoni breifat ddydd Iau, Tachwedd 26, a fynychwyd gan lond llaw o bobol yn unig.

Bu’r Archentwr farw bythefnos yn unig ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ymennydd.

Dim ond aelodau o’i deulu a ffrindiau agos ganiatawyd ym mynwent Jardin Bella Vista yn yr Ariannin ar gyfer y seremoni.

Fodd bynnag roedd pobol wedi ymgasglu ar hyd y ffyrdd i dalu teyrnged iddo wrth i’w gorff gael ei gludo i’r fynwent.

Bu rhaid i’r heddlu ymyrryd ar ôl i bobol ddechrau taflu cerrig at swyddogion gan nad oedden nhw wedi cael cyfle i weld yr arch yn iawn.

Roedd y dorf i’w clywed yn gweiddi “nid yw Diego wedi marw, mae Diego yn byw yn y bobol”, a rhwystrodd cannoedd o gefnogwyr fynediad i’r fynwent drwy ddawnsio a chanu cyn i’r heddlu wneud lle.

Parhaodd y dorf i ganu ymhell ar ôl i’r seremoni orffen.