Mae Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn caniatáu i gefnogwyr ddychwelyd i wylio gemau.
Mewn gweminar yn trafod dyfodol chwaraeon yng Nghymru, dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Steve Phillips, fod trafodaethau wedi dechrau er mwyn gadael i gefnogwyr fynychu gêm derfynol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref ar Ragfyr 5 ym Mharc y Scarlets.
Hyd yma mae holl gemau Cymru wedi eu chwarae tu ôl i ddrysau caeedig, gan gynnwys y gêm yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn yma.
“Rydym ni’n sicr eisiau torfeydd yn ôl, ond mae’n rhaid ystyried iechyd cyhoeddus,” meddai Steve Phillips.
“Dw i wedi bod yn ffodus i fynychu un neu ddau o’r gemau Prawf diweddar ac nid yw’n teimlo’n iawn.
“Mae angen cefnogaeth y dorf er mwyn cael y gorau allan o’r chwaraewyr.”
“Angen i’r Llywodraeth wthio’r agenda”
Eglurodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru nad penderfyniad ariannol yn unig yw gadael cefnogwyr yn ôl i ddigwyddiadau chwaraeon.
“Rydym yn credu’n gryf bod gan chwaraeon rôl bwysig i’n helpu i ddod allan o’r pandemig hwn a’i wneud mewn amgylchedd diogel a rheoledig,” meddai.
“Gall chwaraeon wneud hynny’n well na dim byd arall.
“Byddwn yn chwarae ein rhan i ddod a chwaraeon yn ôl yn ddiogel, ond mae angen i’r Llywodraeth wthio’r agenda yma yn ei blaen.”