Bydd cynghorau sir Cymru yn derbyn £2.6m yn ychwanegol i’w helpu i ostwng biliau treth pobol ar incwm isel.

Gyda nifer fawr o bobol yn wynebu toriad yn eu hincwm neu ddiweithdra yn sgil pandemig y coronafeirws, mae gan Lywodraeth Cymru gynllun sy’n helpu llawer o aelwydydd incwm isel yng Nghymru.

Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn dod â chyfanswm y cymorth coronafeirws ar gyfer y Cynllun Gostwng Treth Cyngor i bron i £5.5m.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn helpu cynghorau sir wrth ymateb i’r cynnydd yn y galw am gymorth, heb effeithio ar y gwasanaethau y maen nhw yn eu darparu eisoes.

“Bydd y cymorth ychwanegol rydw i’n ei gyhoeddi heddiw yn rhoi i awdurdodau lleol y sicrwydd ariannol sydd ei angen arnyn nhw i barhau i gefnogi’r rheini sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf drwy ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor,” Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid.

“Hoffwn i annog pob un sy’n meddwl y gallai fod yn gymwys i gael cymorth gyda biliau’r dreth gyngor i gysylltu â’i gyngor am ragor o wybodaeth.”

“Cyfnod anarferol iawn”

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt (Torfaen), Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Gyllid ac Adnoddau: “Mae’r cynghorau’n gwybod bod llawer o bobl wedi dioddef caledi ariannol yn ystod y cyfnod hwn ac rydyn ni eisiau i bobl wybod ein bod ni yma i helpu.

“Mae hwn yn gyfnod anarferol iawn ac rydym yn gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau am gymorth ledled Cymru.

“Os ydych yn cael trafferth talu eich treth gyngor, cysylltwch â’ch awdurdod lleol i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth sydd ar gael.”