Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau newydd yn cael eu gosod ar dafarndai a bwytai ymhen wythnos.

Bydd rheolau Covid-19 newydd hefyd yn golygu bod sinemâu, canolfannau bowlio a lleoliadau adloniant dan do yn cau.

Mae’r union fanylion am y rheolau newydd, a ddaw i rym ddydd Gwener nesaf (Rhagfyr 4), yn dal i gael eu paratoi, ond mae golwg360 yn deall bod system debyg i ‘lefel tri’ yn yr Alban yn cael ei ystyried. O dan y lefel honno, mae lleoliadau wedi’u gwahardd rhag gwerthu alcohol ac mae’n rhaid iddynt gau am chwech yr hwyr.

“Rwy’n gwybod pa mor galed mae’r sector wedi gweithio i roi mesurau ar waith i ddiogelu’r cyhoedd, ac rwy’n gwybod y bydd hwn yn gyfnod pryderus i bawb sy’n gweithio yn y diwydiant,” meddai Mark Drakeford.

“Bydd y Llywodraeth yn gweithio dros y penwythnos gyda phartneriaid i gwblhau manylion y trefniadau newydd ac i roi pecyn mawr o gymorth ariannol ar waith.”

Achosion ar gynnydd eto

Daw’r newidiadau i’r rheolau wrth i achosion o Covid-19 godi eto, ar ôl cwympo yn dilyn y cyfnod clo dros dro.

“Mae’r gwelliant a wnaed yn dilyn y clo bellach wedi erydu wrth i’r feirws ffynnu ar ymddygiad arferol,” meddai Mark Drakeford.

“Mae hyn yn dangos pa mor gyflym y gall y sefyllfa newid gyda coronafeirws.”

Mae cyfradd yr achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf wedi cynyddu o 160 i 187 o achosion i bob 100,000 o bobol yng Nghymru wythnos diwethaf.

Roedd yr achosion wedi dechrau gostwng wythnos diwethaf ar ôl y clo dros dro, ac roedd y gyfradd ‘R’ hefyd wedi gostwng o dan 1 – mae bellach yn 1.4.

Ychwanegodd y Prif Weinidog na fydd y newidiadau yn effeithio ar gampfeydd, siopau trin gwallt na siopau eraill.

“Creu mwy o ansicrwydd”

Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Helen Mary Jones, wedi beirniadu sut mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi’r newidiadau.

“Mae gwneud cyhoeddiad heb wneud cyhoeddiad yn creu mwy o ansicrwydd i sector sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd,” meddai.

“Rhaid sicrhau fod unrhyw gyfyngiadau ar letygarwch yn cydfynd gyda chefnogaeth economaidd ddigonol.

“Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi bywydau a bywoliaethau a bod polisi iechyd cyhoeddus a pholisi economaidd yn mynd law yn llaw.”

Ychwanegodd nad oedd y cyfyngiadau ychwanegol yn syndod iddi.

“Daeth Llafur allan o’r toriad tân yn rhy sydyn. Dylen nhw fod wedi mynd am doriad tân hirach, ond fe ddewison nhw beidio â gwneud hynny oherwydd economeg.”