Mae’r bardd Machraeth wedi marw.
Roedd RJH Griffiths yn enwog yn y cylchoedd barddol am ei gynganeddu rhugl a slic, a’i synnwyr digrifwch.
Bu hefyd yn athro ysgol ac yn Dderwydd Gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn.
Cafodd ei eni yn llinach nifer o feirdd lleol adnabyddus ar yr ynys, gan gynnwys Garno, ei hen daid.
Dechreuodd Machraeth farddoni’n 11 oed, ac fe enillodd Gwpan Arian Eisteddfod Ysgol Ramadeg Caergybi’n 14 oed am y marciau uchaf yn yr Adran Lenyddiaeth.
Cafodd ei ysbrydoli gan gerddi Eifion Wyn pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanfachraeth.
Enillodd ei wobr gyntaf erioed am Delyneg mewn Cylchwyl yn y Fali yn 15 oed, gan guro beirdd adnabyddus.
Parhaodd i ennill gwobrau tra’r oedd yn fyfyriwr yn y Coleg Normal ym Mangor o dan arweiniad yr Athro Gwyn Thomas.
Enillodd dros ddeugain o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys holl eisteddfodau’r Llanau, dwy o Dalsarn a Threuddyn, pedair o Dalwrn, tair o Farianglas, ac un yr un o Landdeusant, Llandegfan, Y Tymbl, Patagonia, Talaith Powys a Deiniolen.
Ac yn Eisteddfod Môn 2013, enillodd y Goron.
Mae hefyd yn cael ei adnabod am ei englyn ‘Yr Hwch’ ac am ei gyfrol Yr Hwch a Cherddi eraill, a gafodd ei chyhoeddi yn 1987.
“Barddoni yn dod yn rhy rhwydd iddo”
Dywedodd Vaughan Hughes, cyd-olygydd cylchgrawn Barn ac un o feibion Môn, wrth golwg360:
“Dw i’n cofio Eisteddfod Abergwaun yn 1986, a mwd yn bob man.
“Enillodd Machraeth englyn y dydd am ‘Yr Hwch’, sy’n ei ddangos o ar ei orau fel digrifwr… mae’n cael ei gofio am hynny.
“Roedd yn gwisgo tei bo drwy’r amser.
“Dyn oedd yn credu ei fod o’n medru gwneud hi oedd Machraeth, ac efallai fod barddoni yn dod yn rhy rhwydd iddo.
“Petai o’n cymryd mwy o ofal, yn lle cymryd be oedd yn dod i’w ben o gynta’, petai o wedi ymlafnio mwy dros ei waith, efallai y byddai o wedi gwneud mwy ohoni fel bardd.
“Roedd yn gefnogwr mawr i Glwb Pêl-droed Bangor, ac un tro, mi aeth i Wlad yr Iâ i’w dilyn yn un o gwpanau Ewrop gyda phasbort ffug Cymreig, ond mi gafodd fynediad. Roedd o’n dipyn o gymeriad.”