Mae’r gantores eiconig Cher wedi teithio i Bacistan i i helpu “eliffant mwya’ unig y byd”.
Mae Kaavan yr eliffant wedi bod yn y sŵ yn Islamabad ers 35 mlynedd, ac ar ôl colli ei bartner yn 2012 mae ganddo broblemau ymddygiad ac mae wedi pesgi yn arw..
Ac wedi i uchel lys Pacistan orchymyn cau’r sŵ fis Mai, mae ymgyrch wedi bod ar droed i ganfod cartref newydd i Kaavan.
Yn dilyn pedair blynedd o ymgyrchu bydd grŵp lles anifeiliaid, Four Paws International, yn ail gartrefu’r eliffant mewn gwarchodfa arbennig yn Cambodia.
Diolchodd Martin Bauer o’r grŵp lles anifeiliaid i’r gantores am ei chefnogaeth.
“Diolch i Cher, ond hefyd i ymgyrchwyr Pacistanaidd lleol, rhoddwyd sylw i Kaavan ym mhenawdau ledled y byd, a chyfrannodd hyn at hwyluso’r trosglwyddiad.
“Mae enwogion sy’n benthyg eu lleisiau i achosion da bob amser yn cael eu croesawu, gan eu bod yn helpu i ddechrau trafodaethau cyhoeddus a rhoi pwysau ar awdurdodau.
“Ledled y byd mae cariad at anifeiliaid, boed yn enwog a ddim, ac mae cefnogaeth pob un ohonyn nhw’n hollbwysig.”
Bu Cher hefyd yn cwrdd â’r Prif Weinidog, Imran Khan, wrthymweld â Phacistan.