Mae arolwg newydd yn awgrymu y byddai’r mwyafrif o bobol ym Mhrydain yn fodlon cymryd y brechiad Covid-19 pan fydd ar gael.

Yn ôl yr arolwg o 2,000 o oedolion, dim ond 17% fyddai’n gwrthod ei gymryd, gyda 19% yn dweud eu bod yn dal yn ansicr.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg fod brechlyn coronafeirws sydd wedi’i ddatblygu yn y Deyrnas Unedig yn gallu atal 70% o bobol rhag cael Covid-19.

“Mae’n gysur gwybod bod y mwyafrif llethol o’r cyhoedd yn cefnogi’r brechlyn,” meddai Dr Johnson D’souza, cyfarwyddwr meddygol Medicspot a fu’n gyfrifol am yr arolwg.

“O fewn mis rydym wedi cyhoeddi tri brechlyn, sydd wedi bod yn gyflawniad anhygoel gan bawb sy’n ymwneud â’r frwydr yn erbyn Covid-19.”

Ysgogi pobol i gymryd y brechlyn

Edrychodd yr arolwg hefyd ar sut y gellid ysgogi pobol nad oedd am gael y brechlyn, i’w gymryd.

Dywedodd 20% y byddent yn cael eu brechu pe baent yn cael eu talu, tra byddai 19% pe bai’n golygu y gallent fynd i’r dafarn.

Byddai mwy na thraean yn ei gymryd pe bai’n golygu y gallent fynd ar wyliau dramor, a byddai 28% yn cytuno pe bai’n golygu y gallent fynd i ddigwyddiadau chwaraeon neu gerddoriaeth.