Machraeth, neu RJH Griffiths
Mae’r bardd Machraeth, neu R.J.H. Griffiths, wedi ennill ei goron eisteddfodol gyntaf erioed.
Fe yw enillydd Coron Eisteddfod Môn eleni.
Eisoes, mae ganddo dros ddeugain o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys holl eisteddfodau’r Llanau, dwy o Dalsarn a Threuddyn, pedair o Dalwrn, tair o Farianglas, ac un yr un o Landdeusant, Llandegfan, Y Tymbl, Patagonia, Talaith Powys a Deiniolen.
Cafodd ei eni yn llinach nifer o feirdd lleol adnabyddus yn Ynys Môn, gan gynnwys Garno, ei hen daid, Rhuddlad a Manaw.
Roedd brawd ei hen daid, y gweinidog Glan Alaw yn deilwng o Gadair Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1881.
Dechreuodd Machraeth farddoni’n 11 oed, ac fe enillodd Gwpan Arian Eisteddfod Ysgol Ramadeg Caergybi’n 14 oed am y marciau uchaf yn yr Adran Lenyddiaeth.
Cafodd ei ysbrydoli gan gerddi Eifion Wyn pan oedd e’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanfachraeth.
Enillodd ei wobr gyntaf erioed am Delyneg mewn Cylchwyl yn y Fali yn 15 oed, gan guro beirdd adnabyddus.
Parhaodd i ennill gwobrau tra oedd yn fyfyriwr yn y Coleg Normal ym Mangor o dan arweiniad yr Athro Gwyn Thomas.
Fe fydd casgliad o’i waith, wedi’i olygu gan Ieuan Wyn, yn cael ei gyhoeddi’n fuan.
Y Gadair
Arwel Emlyn Jones o Ruthun enillodd y Gadair eleni.
Bu’n athro Mathemateg yn Ysgol Maes Garmon a bellach, mae’n athro yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.
Dysgodd gynganeddu o dan adain Huw Dylan Jones, sy’n gyn-enillydd yn Eisteddfod Môn.
Bu Arwel Emlyn Jones yntau’n gymorth i enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd Eryri’r llynedd, Gruffudd Antur.
Mae’n aelod o dîm talwrn Ysgol y Berwyn.
Enillodd Gadair Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen ym Mhontrhydfendigaid yn 2003, yn ogystal â gwobr y Cywydd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid yn 2007.
Daeth i frig cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Llanegryn yn 2008, ac mae’n gyn-enillydd Cadair Eisteddfod Llandderfel.
Cyfansoddodd Gywydd Croeso Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau eleni.
Y Fedal Ryddiaith
John Meurig Edwards gipiodd y Fedal Ryddiaith yn yr eisteddfod eleni, ac mae yntau’n wyneb cyfarwydd yn Eisteddfod Môn hefyd.
Daw o Bontrhydfendigaid yn wreiddiol, ac fe fu’n athro Cymraeg ac yn bennaeth ar nifer o ysgolion ledled Cymru.
Dechreuodd ei yrfa fel athro mewn nifer o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd, cyn symud i fod yn athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu am 11 o flynyddoedd.
Treuliodd gyfnod yn bennaeth cyntaf ar Ysgol Gynradd Gymraeg Aberhonddu, cyn dod yn bennaeth Ysgol Y Bannau yn Aberhonddu.
Eisoes, fe gyhoeddodd ddwy gyfrol, ‘Cymry yn y Gemau Olympaidd’ yn 2011 a ‘Cymry Mentrus’ yn 2012.
Enillodd Goron Eisteddfod Môn ddwy flynedd yn ôl, ac mae ganddo 10 o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Eisteddfod Penrhyn-Coch ddwy flynedd o’r bron.
Enillodd Gadair Eisteddfod Llangadog eleni hefyd.