Dorothy Squires Llun: Gwefan Dorothy Squires
Fe fydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio ym mhentref Dafen ger Llanelli heddiw, ar gartref y gantores Dorothy Squires.
Cafodd ei geni ym Mhontyberem yng Nghwm Gwendraeth yn 1915 ond fe symudodd y teulu i Ddafen ym 1928.
Roedd hi’n ferch i weithiwr dur, a bu hithau’n gweithio mewn ffatri tunplat hefyd.
Symudodd i Lundain yn 18 oed, heb ddweud wrth ei theulu ei bod hi’n mynd yno i ddilyn gyrfa ym myd cerddoriaeth.
Daeth hi i amlygrwydd yn y 1940au wrth iddi berfformio mewn theatrau ledled Prydain, a rhyddhaodd hi gyfres o ganeuon poblogaidd yn ystod y ddegawd.
Roger Moore
Ond mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei phriodas â’r actor James Bond, Roger Moore.
Symudodd y ddau i’r Unol Daleithiau wrth i yrfa Moore ddatblygu, ac roedd hi’n un o’r cantoresau Prydeinig cyntaf i berfformio dros y dŵr. Fe chwalodd y briodas ym 1961.
Yn ystod y 1960au, recordiodd hi ragor o ganeuon poblogaidd, gan gynnwys Say It With Flowers a For Once In My Life.
Daeth uchafbwynt ei gyrfa yn y 1970au wrth iddi berfformio o flaen torfeydd mawr yn y Palladium yn Llundain, Theatr Drury Lane a Neuadd Albert.
Daeth ei gyrfa i ben yn 1990, a bu farw yn y Rhondda yn 1998.
Ei chyn-wr, Roger Moore, sydd wedi talu tuag at gost y plac sydd wedi cael ei drefnu gan Dreftadaeth Cymuned Llanelli.
Yr actors Ruth Madoc fydd yn dadorchuddio’r plac. Fe fydd hi’n ymddangos mewn cynhyrchiad newydd am fywyd Dorothy Squires, Say it with Flowers.