Des Davies gyda chadair Eisteddfod yr Urdd Preseli
Cafodd dylunydd Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni ei ysbrydoli gan ddyluniad syml dodrefn Shaker, yn ogystal â charreg las enwog ardal Sir Benfro.

Des Davies o Flaenffos ger Boncath wnaeth y gadair, fydd yn cael ei chyflwyno i’r enillydd ar ddydd Iau yr Eisteddfod.

Allan o dderw y cafod y gadair ei gwneud, ac fe fydd carreg las Preseli’n ei haddurno.

Dechreuodd ei ddiddordeb yng ngwaith coed ar ôl mynd i ddosbarthiadau trin coed yng Nghaswis ger Hwlffordd.

Ond mae trin coed yn rhan o hanes ei deulu, gan y bu ei dad yn saer coed o’i flaen.

Dywedodd Des Davies: “Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn gwaith coed, felly pan wnes i ymddeol, gan fod gen i offer fy nhad, wnes i feddwl y byddai’n well i mi wneud rhywbeth gyda nhw!

“Wnes i gychwyn mynd i weithdai trin coed yng Ngaswis a dyma’r ail gadair ar gyfer yr Urdd i gael ei chreu yn y gweithdai…”

‘Sioc ond braint’

Caiff y Gadair ei chyflwyno eleni er cof am Geraint ac Eirlys Rees o Drefdraeth, ac mae’n cael ei chyflwyno gan aelodau’r teulu – Nia, Gwenno a Non.

Dywedodd Des Davies: “Roedd yn dipyn o sioc ond yn fraint pan ofynnodd y teulu os gallen i greu y gadair iddyn nhw – roeddwn i yn ffrindiau gyda’r diweddar Geraint ac Eirlys Rees, ac felly mae hynny yn ei wneud ychydig yn fwy arbennig.

“Awelon yw testun y gadair eleni, ac yn sicr mae’r pren deri a’r garreg las yn y gadair wedi teimlo digon o  awelon Sir Benfro dros y blynyddoedd.”

Y Goron

Eurfyl Reed sydd wedi dylunio’r Goron, fydd yn cael ei chyflwyno i’r sawl sy’n fuddugol ar ddydd Gwener, Mai 31.

Daw Eurfyl yn wreiddiol o Drefdraeth, ac mae’n athro Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol y Preseli.

Mae’n hen gyfarwydd â dylunio cadeiriau a choronau ar gyfer eisteddfodau’r ysgol, gan greu hyd at 50 ohonyn nhw ar hyd y blynyddoedd.

Dyluniodd e’r goron ar gyfer Ffermwyr Ifanc Ceredigion bron i 30 mlynedd yn ôl, sydd yn dal i gael ei defnyddio hyd heddiw.

Mae’r goron yn cynrychioli gwibdaith o amgylch Sir Benfro, ac arni bydd delweddau o’r diwydiant olew yn ne y Sir, amaethyddiaeth, twristiaeth a hanes lleol.

Dywedodd Eurfyl Reed: “Bydd carreg Waldo ar flaen y goron, wedi ei gwneud o garreg las Preseli gyda thriban yr Urdd wedi ei wneud o aur melyn, aur gwyn ac aur coch ar ganol y garreg.

“Bydd y goron wedyn wedi ei hamgylchynu gan ddelweddau o’r ardal, gyda nifer o dechnegau wedi eu defnyddio i’w creu a’i siâp yn dilyn mynyddoedd y Preseli.”

Cymrodd flwyddyn i greu’r goron.

“Un o’r anrhydeddau mwyaf ydw i wedi ei gael erioed oedd pan ofynnwyd i mi greu y goron hon.  Mi ydw i wedi gorffen y goron ers bron i flwyddyn nawr, ar ôl treulio y flwyddyn flaenorol yn gweithio arni min nos a dros benwythnosau.  “

Caiff ei chyflwyno eleni er cof am Tonwen Adams.