Mae cyfres o awgrymiadau wedi cael eu cyhoeddi gan weithgor arbennig er mwyn denu rhagor o bobol i Eisteddfod yr Urdd.

Y cyflwynydd, y sylwebydd a’r bargyfreithiwr, Nic Parry fu’n bennaeth ar y gweithgor.

Dywed y gweithgor y dylid ymestyn hyd y dydd yn yr Eisteddfod, gan geisio cadw pobol ar y Maes tan yn hwyrach yn y nos.

Maen nhw’n awgrymu cynnal rhagor o berfformiadau byw a mwy o weithgareddau o amgylch y Maes ac ar stondinau.

Dywed y gweithgor fod sefydlu partneriaethau’n allweddol i lwyddiant yr Eisteddfod, ac maen nhw’n awgrymu “cryfhau’r ddarpariaeth i ddysgwyr a siaradwyr y Gymraeg ail iaith”, gyda chyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg i bobol ddi-Gymraeg.

Bydd Nic Parry yn trafod yr awgrymiadau ar y Maes ar fore Llun yr Eisteddfod.

Perfformio

Awgrym y gweithgor ar gyfer y cystadleuwyr  yw fod pawb sy’n cystadlu yn yr Eisteddfod Gylch yn derbyn tocyn a mynediad am ddim i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Maen nhw hefyd wedi awgrymu “gwahodd dau gynrychiolydd ym mhob cystadleuaeth o’r rhanbarth sy’n croesawu’r Eisteddfod”.

Eu gobaith hefyd yw creu arîna neu bafiliwn perfformio aml-bwrpas gyda sgriniau a chyfleusterau eraill.

Maen nhw’n dweud y dylai pawb sy’n dod yn ail yn y rhanbarthau gael gwahoddiad i berfformio ar y Maes yn ystod yr wythnos, gan greu cystadlaethau amgen, ac fe allai’r rhai sydd wedi methu cyrraedd y llwyfan yn derbyn dosbarthiadau meistri.

Dywed y gweithgor y dylai’r Urdd gydweithio gyda sefydliadau eraill i greu cynlluniau ym maes y celfyddydau.

Awgrym arall ar gyfer perfformio yw trefnu cyfres o wyliau ymylol adeg yr Eisteddfod.

Maen nhw hefyd yn dweud y gellir trefnu cystadlaethau ar y pryd o amgylch y maes, yn ogystal ag anfon DVD neu fideo YouTube ymlaen llaw, gyda’r goreuon yn cael perfformio ar y maes.

Dywed y gweithgor y dylai Bwrdd yr Eisteddfod adolygu’r holl gystadlaethau presennol er mwyn eu haddasu yn ôl yr angen, yn seiliedig ar farn pobol ifanc.

Technoleg

Gobaith y gweithgor ym maes technoleg yw creu pafiliwn arbennig “er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a’r cyfleoedd mae technoleg yn ei gynnig trwy’r Gymraeg i fywydau pobol ifanc”.

Mae hyn yn cynnwys gwahodd cwmnïau mawr i’r maes er mwyn cynnig hyfforddiant, trefnu cynhadledd technoleg yn y pafiliwn, arddangos cyfleoedd technoleg trwy’r Gymraeg, sgriniau mawr rhyngweithiol, gweithdai codio, cyfleoedd i greu deunyddiau cyfryngol, trafodaeth ar ddefnydd diogel o dechnoleg, a llu o arddangosfeydd.