Mae Prifardd yn gobeithio gofyn i rai o bobol ifanc “disglair” Cymru a ydyn nhw eisiau dysgu’r gynghanedd a’i arwyddocâd i’r Gymraeg – er nad ydyn nhw’n astudio hynny yn yr ysgol mwyach.
Un o’r digwyddiad unigryw yn ystod Gŵyl Gerallt eleni – sy’n digwydd ar-lein ddydd Sadwrn – yw’r sgwrs banel ‘Cerdd Dafod Pobol Ifanc Cymru’, o dan ofal y bardd Aneirin Karadog.
Fe fydd y bardd yn sgwrsio â chriw ifanc sy’n ymddiddori mewn barddoniaeth – Cadi Glwys o Ysgol Llanfyllin; Catrin Aur, Ysgol Penweddig Aberystwyth; Mirain Owen, Ysgol Bryn Tawe, enillydd Tlws yr Ifanc Barddas 2019; Kayley Sydenham o Ysgol Gyfun Gwynllyw; a Huw Griffiths o Ysgol Gyfun Gartholwg; a sef Lloyd Warburton o Ysgol Penglais, Aberystwyth.
Eisiau deall
“Fy mwriad yw deall sut mae’r bobol ifanc ddisglair sydd ar y panel yn teimlo am y dull y cyflwynir llenyddiaeth,” meddai Aneirin Karadog. “A oes gormod o bwyslais ar weithio tuag at arholiadau a dim digon ar fwynhau perlau ein llên? A oes lle i wneud mwy o sgrifennu creadigol a dysgu cynganeddu neu o leiaf ddeall y cynganeddion a’u pwysigrwydd i’r Gymraeg – rhywbeth sydd wedi ei hepgor bellach o’r maes llafur Safon Uwch.
“Oes, mae cerddi caeth ar y maes llafur, ond pan o’n i’n gwneud Lefel A Cymraeg, roedd rhaid gallu dadansoddi’r cynganeddion ac roedd prawf ar hynny’n rhan o’r arholiad. Dydy’r gynghanedd felly ddim yn cael ei dysgu mewn ysgolion, sy’n gam gwag ac a dweud y gwir, yn warthus.”
Bydd hi’n “wych,” meddai, cael Lloyd Warburton yn y criw – y disgybl 16 oed a wnaeth argraff fawr eleni drwy gyhoeddi ystadegau a map eglur bob dydd ar Twitter o ymlediad Covid-19 drwy Gymru.
“Gwn ei fod e, fel disgybl yn Ysgol Penglais yn meddwl ei bod yn drueni mawr na chafodd e astudio llenyddiaeth Gymraeg o gwbl ar gyfer TGAU,” meddai Aneirin Karadog. “Yn wir, i ystadegydd o fri fel fe, fel yr oedd yn wir am Dr Roy Stephens (awdur Yr Odliadur), mae lle i bobol sy’n ymddiddori yn y gwyddorau i ymwneud â’r gynghanedd a chynnig ffresni a gwreiddioldeb wrth gynganeddu.”