Bwriad cystadleuaeth ‘Cenedl Mewn Cân’ yw creu rhestr o 10 cân sy’n cynrychioli iaith a diwylliant Cymreig ar ei orau.
Maes o law, bydd y caneuon yn cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o gynnyrch twristiaeth Cymru yn rhyngwladol.
Mae’r rhestr fer o 25 cân wedi’i guradu y cerddor Siân James; y DJ, cynhyrchydd a’r cyflwynydd Dyl Mei, y gohebydd chwaraeon Dylan Ebenezer, Nia Daniel o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Meurig Jones o Bortmeirion, a’r cyflwynydd Lisa Gwilym.
“Er bod tirwedd hardd Cymru’n enwog drwy’r byd, ein bwriad gyda’r prosiect yw cyfarch y ddelwedd yma ymhellach gan godi mwy o ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg – a pha ffordd well i wneud hynny na thrwy gerddoriaeth,”meddai Elin Evans, Cydlynydd y Prosiect.
“Byddwn yn y dyfodol eto yn hyrwyddo Cymru i ymwelwyr felly mae’n bwysig sicrhau ein bod yn dathlu a chyflwyno ein diwylliant unigryw.”
Mae Ysbryd y Nos (isod) yn un o’r 25 o ganeuon y gallech bleidleiso drosti.
Codi ymwybyddiaeth ryngwladol o Gymru a’r iaith Gymraeg
Dywedodd y gyflwynwraig Lisa Gwilym: “Ein tasg oedd creu rhestr gychwynnol o 25 cân fyddai yn gynrychiolaeth o’r pum categori gwahanol, ein hiaith a’n diwylliant.
“Mae cerddoriaeth yn rhan annatod o’n bodolaeth fel cenedl, a dwi’n meddwl bod y syniad o gyflwyno rhai o’n hoff ganeuon i weddill y byd, mewn prosiect sy’n ddifyr ac yn greadigol fel hyn, i hyrwyddo’r hyn sydd yn ein gwneud yn wlad mor arbennig yn hollol wych.”
Mae gofyn i’r cyhoedd ddewis 10 cân o’r rhestr fer sydd wedi’i rannu i bump categori, sef emynau, caneuon gwerin, 60au a’r 70au, 80au a’r 90au a 2000, gyda dwy gân yn cael eu dewis o bob categori.
Bu i’r bleidlais yn agor o neithiwr, nos Iau (Tachwedd 26), a bydd yn cau ar Ragfyr 16.
Bydd rhestr o’r 10 cân fwyaf poblogaidd yn cael ei lansio mewn dathliad arbennig ar ddydd ‘Mamiaith Ryngwladol’ UNESCO, Chwefror 21 2021, er mwyn codi ymwybyddiaeth ryngwladol o Gymru a’r iaith Gymraeg.