Mae Richard E. Huws wedi cyhoeddi ei lyfr diweddaraf ‘Pobol y Topie’, sy’n crynhoi hanes 100 o bobl wnaeth gyfraniad i fywyd cyfoethog pentref Bont-goch yng Ngogledd Ceredigion.

Dyma ganlyniad tair blynedd o lafur i’r awdur sy’n ymddiddori mewn hanes lleol… yn ogystal â phêl-droed!

Mae’r llyfr yn rhoi blas o fywydau cymeriadau lliwgar yr ardal a’u hanturiaethau tu hwnt i Geredigion, mewn mannau eraill yng Nghymru, ar draws y ffin yn Lloegr, ac yn rhyngwladol.

Pythefnos wedi i’r llyfr gael ei gyhoeddi, mae’r awdur wedi ei syfrdanu gyda’r ymateb.

Ymddiddori mewn hanes lleol

Pam mynd ati i ysgrifennu’r llyfr? “Pan chi ’di ymddeol – ma’ gyda chi amser – roedd hyn yn cadw fi mas o drwbwl,” yw ateb direidus cyntaf yr awdur, cyn mynd ati i ymhelaethu…

“Ysgrifennais lyfr rhai blynyddoedd yn ôl am enwau lleol [Enwau tai a ffermydd Bont-goch (Elerch)]” meddai, “a phan nes i hynny sylweddolais fod nifer o bobl ddiddorol hefyd wedi byw yn y pentref.

“Mi oedd hi’n ganmlwyddiant a hanner yr Eglwys [Eglwys St. Pedr, Elerch] yn 2018, ac fe es i ati i gofnodi’r ficeriaid… Ffeindio bod ’na tua ugain ohonyn nhw ac mi dyfodd hynny wedyn i gynnwys lot mwy o bobl.”

Wrth drafod sut benderfynwyd pwy oedd yn cael eu cynnwys yn y llyfr, dywedodd:

“I raddau helaeth roedd e’n dibynnu ar faint o wybodaeth oeddwn i’n gallu ffeindio allan amdanyn nhw.

“Ambell waith roedd rhywun yn dweud – mae so and so yn gymeriad a hanner – ond pan oeddech chi’n dechrau chwilio am y wybodaeth, doedd ’na ddim llawer ar gael.”

“Roeddwn i’n dibynnu’n drwm ar deyrngedau, papurau bro, holi teuluoedd a phobl leol,” meddai.

Mae hanesion arlunwyr, awduron, beirdd, ffermwyr, gweinidogion, milwyr, mwynwyr a pheirianwyr mwyngloddio yn y llyfr, yn ogystal â “detholiad o gymeriadau gwledig, sy’n cynnwys ambell un ecsentrig!”

Blas o hanesion y bobl

“Hanes un person diddorol yw Griffith Griffiths,” meddai, “cafodd ei eni yn y pentref ac fe aeth i fod yn genhadwr yn Jamaica.”

“Daeth yn ficer yn y dref ac maen nhw dal i gofio amdano hyd heddiw, am ei fod wedi gwneud cyfraniad mawr a brwydro yn galed yn erbyn caethwasiaeth.”

“Roedd e’n byw ac yn gweithio yn yr un dref cafodd Usain Bolt ei eni!”

Mae’r llyfr hefyd yn adrodd hanes William Jeremy – un o’r chwaraewr fiola gorau ym Mhrydain, dau frawd cafodd eu lladd gan fellten yn y pentref, a hanes Samuel Thompson aeth i’r de i weithio yn y pyllau glo, cyn dod yn ymgeisydd i’r Ceidwadwyr yn Sir Ddinbych.

“Mi fyddai wedi bod yn help gallu gofyn ambell i gwestiwn i’r bobl eu hunain!” meddai’r awdur.

Mae hanes dwy chwaer i’w ganfod yn y llyfr hefyd, sef Dorothy Evans a Hilda Thomas.

Dorothy Ann Evans (1918-1944)

Bu farw Dorothy yn 25 oed ar Ebrill 10fed, 1944, o ganlyniad i ddamwain ym maes awyr Fairwood, Abertawe, pan darodd awyren Brydeinig un o adeiladau’r gwersyll.

Mae hi’n un o ddau berson lleol sydd wedi eu coffáu gyda charreg Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad ym mynwent Eglwys Sant Pedr, Elerch.

Roedd ei chwaer fach, Hilda Thomas yn gymeriad adnabyddus iawn a threuliodd rhan fwyaf o’i hoes yn ei milltir sgwâr.

Hilda Elizabeth Thomas (1914-2008)

Cyfrannodd yn helaeth i’r gymuned leol ac roedd yn aelod gweithgar o Eglwys Sant Pedr, Elerch, a bu’n ohebydd lleol i ‘Papur Pawb’.

Roedd hefyd yn hoff o gystadlu mewn eisteddfodau ac i’w chlywed yn aml ar raglenni Radio Cymru.

Y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfochrog “i addysgu pobl am gefndir yr ardal”

“Roeddwn i wedi cael cymaint o help gan bobl dros y ffin, oni’n teimlo bydden nhw moen prynu fe,” meddai’r awdur wrth esbonio’r rhesymeg dros gynnwys y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfochrog.

“Hefyd, mae e’n adlewyrchu sefyllfa ieithyddol yr ardal erbyn hyn.

“Os fyswch chi’n dod i Bont-goch chwarter canrif yn ôl mi fyddai’r mwyafrif helaeth o bobl yn siarad Cymraeg.

“Erbyn heddiw, mae ’na tua hanner cant o dai yma a fyswn i’n meddwl mai Cymraeg yw iaith yr aelwyd mewn dim ond tua phump neu chwech o’r tai.

“Mae e’n eithaf trist, mewn un ystyr, bod chi’n gorfod gwneud llyfr yn ddwyieithog ond oni’n meddwl y bydde fe’n help i addysgu pobl am gefndir yr ardal.”

“Wedi gwneud ffrindiau oes”

Erbyn hyn, mae’r gyfrol ar gael mewn rhai siopau lleol, siopau llyfrau ac ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru, Gwales.

“Mae’r llyfr yn gwerthu’n dda iawn,” meddai “dwi wedi synnu cymaint o bobl sydd wedi prynu fe!”

“Mae hi wedi bod yn brofiad pleserus iawn i ddweud y gwir – wedi cael cwrdd â lot o bobl ac wedi gwneud ffrindiau oes mewn rhai achosion.”