Mae Urdd Gobaith Cymru a myfyrwyr ym Mhrifysgol Alabama yn yr Unol Daleithiau wedi dod at ei gilydd i ffurfio côr rithiol i ddathlu’r berthynas rhwng y ddau sefydliad.
Mewn fideo arbennig mae 34 o leisiau yn dod at ei gilydd i ganu addasiad o gan ‘Every Praise’ gan Hezekiah Walker, ‘Canwn Glod’.
Ers i Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, ymweld ag Alabama y llynedd mae’r berthynas rhwng y ddau sefydliad wedi mynd o nerth i nerth.
Ffurfiwyd perthynas rhwng y Cymry a’r gymuned Affro Americanaidd ym Mirmingham, Alabama, dros hanner canrif yn ôl yn dilyn ymosodiad terfysgol gan y Klu Klux Klan ar Eglwys y Bedyddwyr.
Fel arwydd o gefnogaeth ac undod rhoddwyd ffenestr lliw i’r eglwys gan Gymru.
Roedd disgwyl i Gôr Gospel UAB, sy’n ymddangos yn y fideo, ymweld â Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni ond bu rhaid gohirio’r trefniadau oherwydd Covid-19.
Er i Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych gael ei gohirio tan 2021 mae’r Prif Weithredwr wedi cydnabod bod hi’n ‘annhebygol’ bydd yr Eisteddfod yn gallu cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.
Yn dilyn ‘blwyddyn ddinistriol’ i’r mudiad mae’r Urdd hefyd wedi colli bron i hanner o’i gweithlu.
‘Cysur a gobaith drwy gerddoriaeth’
“Mae gan gerddoriaeth, a cherddoriaeth gospel yn enwedig, y gallu arbennig i gynnig cysur a gobaith mewn cyfnodau anodd a chythryblus,” meddai Siân Lewis.
“Mae eleni wedi bod yn flwyddyn heriol a dweud y lleiaf, nid yn unig i genhedloedd unigol ond i ni gyd fel dinasyddion y byd.
“Rydym mor falch ein bod wedi llwyddo i ddatblygu ein partneriaeth a rhoi’r cyfle i’n haelodau ddysgu mwy am ganu gospel oddi wrth ein ffrindiau ysbrydoledig yn UAB, er gwaetha’r pandemig.”
Ychwanegodd Patrick Evans, Cadeirydd Adran Gerdd UAB, fod y côr rhithiol yn gychwyn ar “berthynas gadarn rhwng” myfyrwyr Alabama a phobol ifanc Cymru.
“Roedd canu yn y Gymraeg am y tro cyntaf yn her i aelodau’r côr ond fe wnaethon nhw groesawu’r sialens ac rydym yn edrych ymlaen at ymweld â Chymru pan fydd hi’n ddiogel i ni wneud.
“Yn y cyfamser, gobeithio bydd ein rhith gôr yn creu tipyn o lawenydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Strategaeth ryngwladol uchelgeisiol
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, fod gan yr Urdd strategaeth ryngwladol uchelgeisiol, a hynny er gwaethaf effeithiau Covid-19.
“Rydw i wrth fy modd ein bod yn parhau i gryfhau cysylltiadau rhwng Cymru ac Alabama.
“Wrth uno myfyrwyr drwy rym cerddoriaeth, bydd ein cyfeillgarwch trawsatlantig yn parhau i ffynnu, er gwaethaf y pellter rhyngom.
“Wrth i’r Urdd agosáu at ei ganmlwyddiant yn 2022 mae gan y mudiad strategaeth ryngwladol uchelgeisiol i sicrhau fod mwy o bobol yn gwybod am Gymru, yn cynnig profiadau rhyngwladol i bobol ifanc yr Urdd ac yn dathlu cyfoeth diwylliannol Cymru yn ogystal â rhannu arfer da gan gynyddu hyder a mwynhad yn yr iaith Gymraeg.”