Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru wedi sôn am yr her o frwydro ag “imposter syndrome” ym myd gwleidyddiaeth Cymru.

Term yw hyn am y teimlad o deimlo’n anghyffyrddus yn eich swydd am eich bod yn teimlo nad ydych yn ddigon da neu’n ddigon cymwys.

Ac yn siarad ar raglen radio BBC Tough at The Top – What Makes a Leader mae Leanne Wood, Aelod o’r Senedd Rhondda, wedi sôn am yr her o frwydro’r teimlad yma.

“Pan wnes i gyfrannu yn y Senedd am y tro cyntaf – pan ges i fy ethol am y tro cyntaf yn 2003 – roeddwn yn llawn ofn,” meddai.

“Ac unwaith oeddwn i ar fy nhraed [yn y siambr] dechreuais feddwl: ‘Beth ydw i’n ei wneud fan hyn? Dw i ddim fod fan hyn. Leanne Wood o Ysgol Gyfun Tonypandy ydw i. Beth wyt ti’n ei wneud?’

“Dyna oedd y sgwrs yn fy mhen. Ond wrth gwrs mae hynny’n wirion. Dydych chi methu dal ati i feddwl fel hynna. Imposter syndrome yw’r enw amdano, a dw i wedi gweithio ar hynny.”

Ategodd bod “llawer o bobol yn teimlo hyn” a bod ei chefndir dosbarth gweithiol wedi dylanwadu’n fawr ar ei meddylfryd.

“Bron a bod yn sâl”

Mae Leanne Wood wedi bod â sedd yn y Senedd ers 2003, a rhwng 2012 a 2018 mi roedd hi’n arweinydd ar Blaid Cymru.

Yn siarad ar y rhaglen soniodd am y profiad o fod wrth y llyw, ac am yr ofn o “wneud llanast o bethau”.

“Dyw hyn ddim yn rhywbeth sydd yn dod yn naturiol i mi,” meddai. “Hynny yw, yr hyder sydd ei angen i fod yr arweinydd plaid wleidyddol, a sefyll ar lwyfan mewn dadleuon teledu ac ati.

“Ac ar lawr y Senedd. Dw i wedi gorfod datblygu’r hyder yna. Dw i wedi cyrraedd [pwynt lle mae gen i hyder digonol] dw i’n credu.

“Ond hyd yn oed heddiw dw i’n mynd am dro ac yn meddwl i’n hun: Sut wnes i lando lan yn y swydd yma?

“Dw i ddim yn credu eich bod chi byth yn stopio cwestiynu eich hun pan ydych chi’n dod o gefndir fel f’un i, a dweud y gwir.”

Dywedodd ei bod wedi medru mwynhau’r proffil uchel o fod yn arweinydd yn y pen draw, ond “i ddechrau roeddwn yn ofni cymaint roeddwn bron a bod yn sâl”.

Heriau eraill

Yn ddiweddarach yn y bennod mae’n dweud bod cymorth ffrindiau, profiad yn y swydd, a newid ei steil wedi cyfrannu at godi ei hyder.

Mae hefyd yn sôn am lu o bynciau eraill gan gynnwys hunanladdiad, casineb troliaid ar lein, a heriau bywyd dosbarth gweithiol.