Mae’r Canghellor wedi mynnu nad yw Prydain yn troi ei chefn ar bobol dlotaf y byd wrth iddo amddiffyn cynllun y Llywodraeth i dorri’r gyllideb cymorth tramor.
Dywedodd Rishi Sunak ei bod yn “benderfyniad anodd” torri cymorth tramor o 0.7% i 0.5% o’r incwm cenedlaethol, ond dywedodd fod y Deyrnas Unedig yng nghanol “argyfwng economaidd”.
Daeth y newyddion am dorri gwariant tramor yr un pryd â’r cyhoeddiad am wariant amddiffyn.
Roedd cryn ymateb i’r newyddion ddoe gyda chyn-brif weinidogion, ac Archesgob Caergaint yn lleisio’u gwrthwynebiad i’r cyhoeddiad.
Ar ben hynny, ymddiswyddodd y Farwnes Liz Sugg, Gweinidog y Tiriogaethau Tramor a Datblygu Cynaliadwy yn y Swyddfa Dramor, dros y toriad arfaethedig i gyllid cymorth tramor.
“Rwy’n credu ei bod yn gwbl anghywir rhoi’r gorau i’n hymrwymiad i wario 0.7% o’r incwm cenedlaethol ar gymorth tramor,” meddai yn ei llythyr ymddiswyddo i Boris Johnson.
Ond mewn cyfweliad â Sky News, dywedodd Mr Sunak: “Dydw i ddim yn meddwl y gallai unrhyw un ddweud bod gostwng lefel ein cefnogaeth i’r gwledydd tlotaf yn cyfateb i droi ein cefn.
“Byddwn yn gwario mwy fel canran o incwm cenedlaethol na Ffrainc, Canada, yr Unol Daleithiau, a Siapan.”
Roedd incwm cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn 2019 yn £2.17 triliwn, sy’n golygu y byddai gostyngiad o 0.7% i 0.5% yn cyfrif am fwy na £4 biliwn.
“Premiwm cyflog” y sector cyhoeddus
Cyhoeddodd Rishi Sunak hefyd yr hyn a oedd yn gyfystyr â rhewi cyflogau ar gyfer tua 1.3 miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus.
Dywedodd fod “bylchau” rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat yn mynd i mewn i’r pandemig, a “hyd yn oed pan fyddwch chi’n ystyried nodweddion [eraill] a phensiynau, roedd premiwm cyflog o 7% o leiaf ar gyfer y sector cyhoeddus”.
Dywedodd wrth Sky: “Mae’r premiwm cyflog hwnnw yn sicr wedi ehangu yn ystod y chwe mis diwethaf, oherwydd yr hyn rydym wedi’i weld dros y chwe mis diwethaf yw bod cyflogau’r sector preifat wedi gostwng 1% ac mae cyflogau’r sector cyhoeddus wedi codi tua 4%.
“Ar ben hynny, mae pobl yn y sector preifat yn colli eu swyddi, mae eu horiau’n cael eu torri, maen nhw’n cael eu rhoi ar ffyrlo – does dim o hynny’n digwydd yn y sector gyhoeddus.
“Felly, o ystyried y cyd-destun, ni allwn gyfiawnhau cynnydd cyffredinol mewn cyflogau i’r sector cyhoeddus.”
Cyfraddau tâl swyddi sector breifat i lawr 15%
Fodd bynnag, mae ymchwil newydd wedi dangos bod tâl a hysbysebir am swyddi yn y sector cyhoeddus wedi gostwng dros 15% o’i gymharu â blwyddyn yn ôl, tra bod cyfraddau swyddi gwag mewn cwmnïau preifat wedi codi bron 1%.
Dywedodd CV-Library fod ymchwil i swyddi gwag ar ei gwefannau swyddi yn awgrymu bod “anghydbwysedd” yn nhâl y sector cyhoeddus a chyflogau’r sector preifat, gan ychwanegu y bydd y bwlch yn lledu ar ôl adolygiad gwariant y Llywodraeth.
Dywedodd Matthew Moore, rheolwr gyfarwyddwr CV-Library: “Mae’n ymddangos o’n data bod y sector cyhoeddus eisoes yn gwneud yn wael o ran cyflogau a hysbysebir o’i gymharu â’r sector preifat.
“Er ein bod yn croesawu’r newyddion y bydd meddygon a nyrsys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael codiad cyflog blynyddol y flwyddyn nesaf, a bydd 2.1 miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus sy’n ennill llai na’r cyflog cyfartalog o £24,000 yn cael cynnydd o £250, mae’r anghydbwysedd rhwng y ddau sector yn peri pryder ac mae angen ei fonitro.
“Yn fwy cadarnhaol, rydym yn falch o weld, er gwaethaf y flwyddyn ddigynsail hon, fod cyflogau’r sector preifat nid yn unig yn dal i fyny, ond yn dangos arwyddion o dwf.”
Mwy o fenthyca
Dywedodd y Canghellor wrth ASau ddydd Mercher (Tachwedd 25) na fydd yr economi wedi’i hadfer i lefelau cyn yr argyfwng tan ddiwedd 2022.
Bydd mesurau brys yn gweld y Llywodraeth yn benthyca £394 biliwn eleni, sy’n dod i gyfanswm o 19% o’r incwm cenedlaethol – yr uchaf erioed wedi’i gofnodi mewn cyfnod o heddwch.
Fodd bynnag, cwestiynodd pennaeth y Sefydliad Polisi Cyllidol (IFS), Paul Johnson, a fydd angen hyd yn oed mwy o fenthyca na’r hyn a nodwyd gan y Llywodraeth.
“Mae’r Adolygiad o Wariant yn cymryd yn ganiataol na fydd gwariant ar Covid ar ôl y flwyddyn nesaf a bod Credyd Cynhwysol yn cael ei dorri ym mis Ebrill,” meddai ar Twitter.
“Mae’n tybio y bydd gwariant nad yw’n wariant ar Covid £10bn y flwyddyn yn llai na’r disgwyl ym mis Mawrth.
“Dw i ddim yn siŵr y bydd unrhyw un o’r rhain yn digwydd. Mae’n awgrymu awgrymu cryn dipyn mwy o fenthyca na’r rhagolwg o £100bn hyd yn oed.”
‘Ddim yn wahanol iawn i gyfnod o lymder’
“Efallai nad yw hyn yn ein dychwelyd i [gyfnod o] lymder, ond i rai gwasanaethau cyhoeddus efallai na fydd yn teimlo’n wahanol iawn,” meddai Paul Johnson yn nes ymlaen.
Dywedodd cyfarwyddwr yr IFS y gallai’r adolygiad arwain at gynnydd yn nhreth y Cyngor.
Dywedodd: “Adolygiad Gwariant yn codi trethi oedd hwn mewn gwirionedd. Mae’r Canghellor wedi dewis lleihau’r cymorth i awdurdodau lleol ac wedi rhoi’r gallu iddynt godi Treth y Cyngor 5% yn lle hynny.
“Os byddant yn gwneud hynny, ac mae’n debyg y bydd angen iddynt wneud hynny, mae’n debyg y bydd hynny’n cynyddu biliau treth blynyddol tua £70 y cartref ar gyfartaledd.”
Dywedodd Mr Johnson fod y Canghellor wedi dewis brwydr fawr dros “ddim llawer o arian” drwy rewi tâl i weithwyr y sector cyhoeddus nad oeddent yn gweithio yn y GIG, neu a enillodd lai na £24,000 y flwyddyn.
Dywedodd: “Mae’n debyg y bydd y penderfyniad i rewi cyflogau’r sector cyhoeddus i rai yn arbed rhwng £1 a £2 biliwn yn unig y flwyddyn nesaf. Efallai fod y Canghellor wedi dewis brwydr fawr dros ddim llawer o arian.
“Ac, fel arfer, yn y sector cyhoeddus mae’r penderfyniadau’n edrych yn seiliedig ar wleidyddiaeth nid gan economeg na’r angen i wario arian naill ai’n deg neu’n effeithlon.”