Mae’r Farwnes Liz Sugg, Gweinidog y Tiriogaethau Tramor a Datblygu Cynaliadwy yn y Swyddfa Dramor, wedi ymddiswyddo dros y toriad arfaethedig i gyllid cymorth tramor.

Cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak y bydd y gyllideb cymorth tramor yn cael ei thorri i 0.5% o’r incwm cenedlaethol yn 2021, gan ychwanegu mai “bwriad” y Llywodraeth oedd dychwelyd i 0.7% pan fydd y sefyllfa ariannol yn caniatáu.

Daeth y newyddion am dorri gwariant tramor yr un pryd â’r cyhoeddiad am wariant amddiffyn.

Yn ei llythyr ymddiswyddo, mae’n dweud bod rhoi’r gorau i’r targed cymorth o 0.7% yn “sylfaenol anghywir”.

Cafodd Sugg ei gwneud yn weinidog yn 2016 ar ôl gweithio fel cymhorthydd i David Cameron pan yr oedd yn brif weinidog.

Cael y blaid Geidwadol i ymrwymo i darged o gymorth tramor 0.7% oedd un o brif gyflawniadau David Cameron fel arweinydd y blaid a chafodd y ddeddfwriaeth, y Ddeddf Datblygu Rhyngwladol (Targed Cymorth Datblygu Swyddogol), ei phasio gan ei lywodraeth glymbleidiol.

Yn ei llythyr ymddiswyddo at y Prif Weinidog Boris Johnson, ysgrifennodd y Farwnes Sugg: “Gyda thristwch rwy’n ysgrifennu i ymddiswyddo o’r Llywodraeth.

“Mae llawer o bobol yn ein gwlad yn wynebu heriau difrifol o ganlyniad i’r pandemig ac rwy’n gwybod bod yn rhaid i’r Llywodraeth wneud dewisiadau anodd iawn wrth ymateb.

“Ond rwy’n credu ei bod yn gwbl anghywir rhoi’r gorau i’n hymrwymiad i wario 0.7% o’r incwm cenedlaethol ar gymorth tramor.

“O ystyried y cysylltiad rhwng ein gwariant ar ddatblygu ac iechyd ein heconomi, mae’r dirywiad economaidd eisoes wedi arwain at doriadau sylweddol eleni ac ni chredaf y dylem leihau ein cefnogaeth ymhellach ar adeg o argyfyngau byd-eang na welwyd eu tebyg o’r blaen.

“Diolch am y cyfle i wasanaethu fel Gweinidog mewn swydd rwy’n ei charu.”

Roedd ymateb Boris Johnson i’r Farwnes Sugg fel a ganlyn: “Diolch am eich llythyr yn rhoi gwybod i mi am eich ymddiswyddiad fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, ac fel fy Ysgrifennydd Arbennig ar gyfer Addysg Merched. Roedd yn ddrwg iawn gen ei dderbyn.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am eich gwasanaeth fel un o weinidogion y Llywodraeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn arbennig am bopeth rydych wedi’i wneud ers i mi ddod yn Brif Weinidog y llynedd.

“Mae eich angerdd a’ch ymrwymiad i’ch gwaith wedi bod yn glir i weision sifil a’ch cydweithwyr yn y Gweinidogion, a gwn y bydd y Swyddfa Dramor yn eich colli.”

Toriad “cywilyddus ac anghywir,” medd Archesgob Caergaint

Yn y cyfamser, mae Archesgob Caergaint, Justin Welby, hefyd wedi ymosod ar y Llywodraeth am ei thoriadau “cywilyddus ac anghywir” i’r gyllideb cymorth tramor, wrth i Boris Johnson wynebu cryn feirniadaeth am wrthdroi un o addewidion ei faniffesto etholiadol.

Ysgogodd y penderfyniad ymateb ffyrnig, gan gynnwys gan yr Archesgob, wnaeth drydar: “Mae’r toriad yn y gyllideb gymorth – sy’n waeth oherwydd diffyg dyddiad penodol ar gyfer ei hadfer – yn gywilyddus ac yn anghywir. Mae’n groes i nifer o addewidion y Llywodraeth a’i maniffesto.

“Rwy’n ymuno ag eraill i annog ASau i’w wrthod er lles y bobol dlotaf yn y byd, ac enw da a buddion y Deyrnas Unedig,” ychwanegodd.

Dywedodd Prif Weithredwr Oxfam, Danny Sriskandarajah: “Bydd torri cymorth y Deyrnas Unedig i gymunedau tlotaf y byd yng nghanol pandemig byd-eang yn arwain at ddegau o filoedd o farwolaethau y gellir eu hatal fel arall.”

Ond mewn sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Tachwedd 25), mynnodd y Prif Weinidog y bydd y Deyrnas Unedig yn “parhau” i ddarparu cefnogaeth i’r “bobol dlotaf a mwyaf bregus y byd”.

Cyn-Brif Weinidogion yn ymyrryd

Mae’r feirniadaeth yn dilyn ymyrraeth gan y cyn-Brif Weinidogion John Major, David Cameron a Tony Blair.

Dywedodd Syr John Major wrth The Times: “Mae torri ein cymorth tramor yn foesol anghywir ac yn wleidyddol annoeth.

“Yn bennaf oll, bydd yn niweidio llawer o’r bobol dlotaf yn y byd.

“Ni allaf ac nid wyf yn ei gefnogi.”

Mae’r ffigur o 0.7% wedi’i gynnwys yn y ddeddfwriaeth – ac addawodd maniffesto etholiadol 2019 Boris Johnson ei gadw.