Yn dilyn pryder y gallai San Steffan ‘ddwyn grymoedd’ yn ymwneud ag ariannu prosiectau rhanbarthol, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei threchu eto yn Nhŷ’r Arglwyddi
Yn y golled ddiweddaraf i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y cam adrodd ar Fil y Farchnad Fewnol yn Nhŷ’r Arglwyddi, pleidleisodd yr arglwyddi o 323 i 241, mwyafrif 82, i ddileu o’r bil dadleuol allu’r gweinidogion i wneud penderfyniadau yn ymwneud ag ariannu ledled y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr Arglwydd Wigley o Blaid Cymru fod cronfeydd rhanbarthol yr Undeb Ewropeaidd wedi bod o “fudd aruthrol” i Gymru yn y gorffennol, a rhybuddiodd y byddai rhoi cyfrifoldeb i San Steffan ariannu prosiectau ledled y Deyrnas Unedig yn gam yn ôl.
Daeth y bleidlais yn dilyn dadl am Fil y Farchnad Fewnol – yn y ddadl, cafodd y Llywodraeth ei chyhuddo o “dorri ar draws” pwerau datganoledig mewn “ymosodiad” uniongyrchol ar ddatganoli.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur hefyd wedi disgrifio bwriad y Llywodraeth fel ymosodiad ar ddatganoli.
Cronfa ffyniant
Fodd bynnag, ar ran y Llywodraeth, wfftio’r feirniadaeth hynny wnaeth y Farwnes Penn.
Dywedodd fod y Llywodraeth yn bwriadu darparu cronfa ffyniant mewn cydweithrediad â’r llywodraethau datganoledig.
Honnodd y Farwnes Penn y byddai’r gronfa ffyniant a rennir yn caniatáu i’r Llywodraeth fuddsoddi mewn cymunedau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn hytrach na dibynnu ar yr Undeb Ewropeaidd i ddewis sut y byddai’r arian yn cael ei wario gydag “ychydig o lais” gan wleidyddion etholedig yn y Deyrnas Unedig.