Mae’r Archentwr Diego Maradona, un o’r pêl-droedwyr gorau erioed, wedi marw yn 60 oed.

Bythefnos yn unig ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ymennydd cafodd drawiad ar y galon yn ei gartref.

Ar ôl arwain yr Ariannin i fuddugoliaeth yng Ngwpan y Byd 1986 ym Mexico mae’n cael ei ystyried yn un o’r pêl-droedwyr gorau erioed, gyda llawer o’r farn mai ef yw’r gorau i chwarae’r gêm.

Athrylith, ac arwr yr Ariannin

Yn y twrnament hwnnw, ysbrydolodd dîm cyffredin i ennill y twrnament gan sgorio neu gynorthwyo 10 o 14 gôl y tîm yn y gystadleuaeth.

Yn y gystadleuaeth honno, hefyd, sgoriodd y gôl enwog – ‘The hand of God‘ – yn erbyn Lloegr, cyn sgorio’r hyn a elwir yn Gôl y Ganrif i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Clybiau

Profodd Maradona lwyddiant ar lefel clwb hefyd, gan chwarae i Argentinos Juniors a Boca Juniors yn ei famwlad, cyn symud i Barcelona.

Ar ôl cyfnod llawn anafiadau, bu’n rhaid iddo adael Barça oherwydd anghytuno gyda’r bwrdd, ac am ei ran mewn ffrwgwd fawr mewn gêm yn erbyn Athletic Bilbao.

Symudodd i Napoli yn yr Eidal a’u tywys i’r cyfnod mwyaf llewyrchus yn eu hanes, a hynny tra bod cynghrair yr Eidal, Serie A, yn cael ei chydnabod fel yr un orau yn y byd.

Mae’n arwr yn Napoli hyd heddiw.

Problemau

Fodd bynnag, yn ystod ei saith mlynedd yn Napoli daeth Maradona yn gaeth i gocên.

Cafodd waharddiad o 15 mis am dorri rheolau cyffuriau yn 1991 a thair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei daflu allan o Gwpan y Byd yn yr Unol Daleithiau ar ôl profi’n bositif am eprinrine.

Torrwyd y newyddion am ei farwolaeth gan wasanaeth newyddion Clarin yn yr Ariannin – disgrifiwyd marwolaeth y pêl-droediwr fel ergyd fyd-eang.

Yn fuan wedyn cadarnhawyd y newyddion yn swyddogol gan ei gyfreithiwr.

Gadawodd Maradona yr ysbyty ar Dachwedd 11, wyth diwrnod yn unig ar ôl cael llawdriniaeth frys i dynnu clot gwaed oddi ar ei ymennydd.

Ers ymddeol cafodd ei drin sawl gwaith yn yr ysbyty, daeth y digwyddiad mwyaf nodedig yn 2000 pan ddaeth yn agos i farw ar ôl i or ddefnydd o gocên achosi i’w galon fethu.

Roedd Maradona  yn adnabyddus am fyw ei fywyd i’r eithaf a chafodd ei drin ar sawl achlysur am ei ddefnydd o gyffuriau ac alcohol.

Yn dilyn ei frwydrau personol bu’n rheoli’r Ariannin am ddwy flynedd, gan fynd â nhw i Gwpan y Byd 2010 yn Ne Affrica.

Cyrhaeddodd ei dîm rownd gogynderfynol y gystadleuaeth.

Tridiau o alaru

Mae’r Ariannin wedi cyhoeddi tridiau o alaru i’r arwr cenedlaethol.

Trydarodd Arlywydd yr Ariannin, Alberto Fernández:

“Est ti â ni i frig y byd. Gwnest ti ni’n hynod o hapus. Ti oedd y mwyaf ohonynt i gyd.

“Diolch am fodoli, Diego. Rydyn ni’n mynd i weld dy eisiau di am weddill ein hoes.”

Caiff Diego Armando Maradona ei gofio fel un o’r goreuon erioed – ac fel arwr yn yr Ariannin, Napoli, a thu hwnt.