Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod y siom o golli yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor diwethaf wedi ysgogi ei dîm i wella y tymor hwn.

Mae’r Elyrch yn croesawu Sheffield Wednesday i Stadiwm Liberty heno (nos Fercher, Tachwedd 25) ar ôl dechrau da i’r tymor.

Maen nhw’n bedwerydd ar ôl 12 gêm ar ôl colli dwy gêm yn unig hyd yn hyn, a nhw sydd â’r record orau o ran canlyniadau ers i gemau ailddechrau yn dilyn y seibiant yn sgil y coronafeirws ym mis Mehefin.

“Mae siawns o hyd y gallwch chi ddioddef wedi rhywbeth fel hynny,” meddai Steve Cooper am y golled yn erbyn Brentford yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle’r tymor diwethaf.

“Fe welson ni newid yn y chwaraewyr wrth i sawl un adael, ond rydyn ni wedi dod â sawl un o’r chwaraewyr hynnny’n ôl – naill ai ar fenthyg neu’n barhaol – ac mae gyda ni wynebau ffres.

“Felly roedd yn teimlo fel rhywfaint o her ffes a dechrau ffres mewn ffordd.

“Mae’r siom o fethu â chael dyrchafiad wedi bod yn ysgogiad hyd yn hyn, yn hytrach na bod yn rhywbeth i’w ddioddef.

“Mae’n ysgogiad ond dydy hynny ddim yn golygu ei fod ym mlaen ein meddyliau ni.

“Unwaith rydych chi’n cyrraedd y cyfnod o baratoi cyn dechrau’r tymor ac yn chwarae gemau, mae modd anghofio am y gorffennol yn gyflym.

“Mae hynny’n iawn gyda ni gan ein bod ni’n griw o staff a chwaraewyr sy’n hoffi edrych ymlaen.

“Rydyn ni’n credu mai dyna’r ffordd orau o ran yr amserlen rydyn ni ynddi a dydy’r tymor hwn a’r tymor diwethaf ddim yr un fath, felly allwch chi ddim wir eu cymharu nhw.

“Fe fu’n ddechrau da, ond mae hynny ond yn cyfri os ydyn ni’n adeiladu arno fe.”

‘Gall unrhyw beth ddigwydd’

Yn ôl Steve Cooper, mae’n rhy gynnar eto i ddarogan pa mor llwyddiannus fydd ei dîm y tymor hwn.

“Mae’n dal yn gynnar yn y tymor, ar ôl 12 gêm,” meddai.

“Mae’r tri thîm sydd wedi dod i lawr yn mynd i fod yn garfannau cryf, gydag adnoddau’r Uwch Gynghrair y tu ôl iddyn nhw.

“Ond mae’n gynghrair mor gystadleuol, rydych chi’n gweld canlyniadau gwallgof bob wythnos.

“Gall unrhyw beth ddigwydd.

“Gyda chynifer o gemau mewn cyfnod byr o amser, gall safleoedd yn y gynghrair newydd yn gyflym hefyd.

“Rhaid i chi fod yn ofalus rhag i chi edrych yn ormodol ar y peth, yn enwedig mor gynnar â hyn.

“Cymerwch un cam ar y tro ac un gêm ar y tro a gweld lle’r ydych chi’n nes ymlaen pan allwch chi geisio darogan beth all gael ei gyflawni.”