Mae esblygiad diogelwch ar y ffin yn y Sianel Brydeinig ac o’i hamgylch wedi arwain at 296 o farwolaethau ymysg ceiswyr lloches, yn ôl adroddiad newydd.
O dan lywodraethau olynol Ffrainc a’r Deyrnas Unedig, mae ymatebion i’r argyfwng wedi troi’n fwy milwriaethus, gan orfodi pobol i droi at lwybrau mwyfwy peryglus.
Mae’r adroddiad yn dweud bod Calais wedi’i droi’n “borth llofruddiaeth”, tra bod ymateb y Swyddfa Gartref i gychod bach yn croesi wedi tyfu i raddau “bwystfilaidd”.
Mae’r adroddiad, y cyntaf o’i fath yn Saesneg, yn dogfennu bron i 300 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r sianel ac o’i amgylch ers 1999.
Ysgrifennodd Mael Galisson, o Gisti, gwasanaeth cyfreithiol i geiswyr lloches yn Ffrainc, yr adroddiad gwreiddiol yn Ffrangeg ac mae bellach wedi cael ei gyfieithu i’r Saesneg a’i ddiweddaru.
“Yn 2020, mae’r gostyngiad mewn traffig lorïau ac awyr oherwydd Covid-19 wedi arwain at gynnydd cyfatebol mewn ymdrechion i groesi’r môr mewn cychod bach, wedi’i drefnu gan smyglwyr masnachol sy’n codi hyd at £3,000 am y daith ac yna’n gorfodi teithwyr i lywio’r cychod,” meddai.
“Mae dwsinau o’r rhai sy’n cael eu gorfodi i lwyio cychod wedi cael eu harestio fel smyglwyr pobol, ac mae 10 o bobol wedi marw yn 2020 wrth geisio croesi’r sianel mewn cychod bach – neu hyd yn oed drwy nofio.”
“Nid yw atebion milwrol yn datrys problemau dyngarol”
Dywedodd Frances Webber, is-gadeirydd y Sefydliad Cysylltiadau Hiliol: “Nid yw’r marwolaethau hyn yn ’naturiol’ nac yn ‘ddamweiniau trasig’ ond wedi’u hachosi gan bolisïau sydd nid yn unig yn cau ffiniau ond sydd hefyd yn codi mwy fyth o rwystrau i deithio diogel i’r rhai mwyaf bregus.
“Nid yw atebion milwrol yn datrys problemau dyngarol.
“Mae hanes diogelu’r Sianel Seisnig yn hanes o farwolaeth.
“Felly pam rydym yn caniatáu i’r Llywodraeth barhau ar hyd yr un llwybr?”