Mae angen “edrych yn fanylach” ar y berthynas rhwng Iolo Morgannwg a masnachu caethweision, yn ôl adolygiad a gynhaliwyd ar gais Llywodraeth Cymru.

Taniwyd y gwaith – Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig, Archwiliad o Goffáu yng Nghymru – yn sgil protestiadau ‘Mae Bywydau Du o Bwys’ ac mae wedi dod i’r casgliad bod dros 200 stryd, cofeb, paentiad (ac ati) yn coffáu pobol â chysylltied â’r fath fasnach.

Mae adroddiad yr adolygiad yn rhannu’r rheiny sy’n cael eu coffáu mewn i bum categori, fel a ganlyn, ac mae sefydlydd yr Orsedd yn y bumed categori (sef yr un lleiaf difrifol).

  1. Pobl a oedd yn rhan o’r fasnach mewn caethweision Affricanaidd
  2. Pobl a oedd yn berchen ar neu’n elwa’n uniongyrchol ar blanhigfeydd neu fwyngloddiau lle’r oedd caethweision yn gweithio
  3. Pobl a wrthwynebodd dileu’r fasnach mewn caethweision neu gaethwasiaeth
  4. Pobl a gyhuddwyd o droseddau yn erbyn pobl Dduon, yn enwedig yn nhrefedigaethau Affrica
  5. Eraill y mae angen eu harchwilio ar ôl i ymgyrchwyr dynnu sylw atynt

Mahatma Gandhi a Winston Churchill

Ochr yn ochr â Iolo Morgannwg yn y categori ‘Eraill y mae angen eu harchwilio ar ôl i ymgyrchwyr dynnu sylw atynt’ mae Mahatma Gandhi a Winston Churchill.

“Gellir herio eu henw da, gyda safbwyntiau dilys gan y naill ochr a’r llall,” meddai’r adroddiad.

“Er bod cryn amwysedd ynghylch pa mor euog neu fel arall oedd y rhan fwyaf ohonynt, maent yn cael sylw yn yr archwiliad er mwyn caniatáu trafodaeth deg ac agored o’u henw da a’r ffaith eu bod yn cael eu coffáu.

“Mae gan yr unigolion rôl a hanes gwahanol, yn amrywio o’r bymthegfed ganrif i’r ugeinfed ganrif. Roedd gan lawer ohonynt hanes personol cymhleth a oedd yn ymgnawdoli newidiadau sylweddol mewn amgylchiadau neu safbwyntiau ar hyd eu hoes.”

‘Gellid ei ryddhau o fai’

Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cyfeirio at Iolo Morgannwg yn benodol wrth bwysleisio bod hanes ffigyrau’r categori yn gymhleth.

“Mae angen ystyried pob un ohonynt fel achosion unigol a gellid rhyddhau rhai ohonynt o fai,” mae’r adroddiad yn nodi.

“Er enghraifft, er bod angen edrych ar y ffaith i Iolo Morgannwg etifeddu planhigfa siwgr, nid oedd y blanhigfa’n defnyddio caethweision ac fe ymgyrchodd yn erbyn caethwasiaeth gydol ei oes fel oedolyn.”

Mae’n debyg bod dwy gofeb iddo yng Nghymru, ac un adeilad wedi’i enwi ar ei ôl. Gellir darllen y cyfan amdano yn yr adroddiad ar dudalennau wyth a naw.

Barti Ddu ymhlith y gwaethaf

Ymhlith y rheiny sydd yn y categori mwyaf difrifol mae’r preifatîr (privateer) o oes Elizabeth, Francis Drake, a’r môr leidr o Gymro, Barti Ddu (Bartholomew Roberts).

Roedd y ddau ffigwr ynghlwm yn uniongyrchol â masnachu caethweision, a’u cludo ar longau, meddai’r adroddiad.

“Ni ellir gwadu euogrwydd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn ymwneud â’r mordeithiau caethweision,” meddai’r adroddiad.

“Nid oedd hi’n bosibl cymryd rhan yn uniongyrchol mewn masnachu pobl heb dystio i’w anfadwaith, ac eto roedd miloedd o fuddsoddwyr neu forwyr yn ymwneud â’r fasnach mewn caethweision Affricanaidd rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.”

“Prin ar y naw”

Mae’r adroddiad yn nodi mai dim ond wyth heneb/adeilad/lle/stryd sydd wedi’u henwi ar ôl pobol o liw yng Nghymru, ac mae’n lleisio rhwystredigaeth ynghylch hynny.

“Prin ar y naw yw’r bobl groenliw sy’n cael eu coffáu yng Nghymru,” mae’r adroddiad yn nodi.

“Mae’n drawiadol (ar wahân i’r cerflun o Betty Campbell sydd i ddod yn 2021) mai’r unig gerflun o bobl o dras ddu yw cerflun o griw o bobl ddienw ym Mae Caerdydd, nid cofeb i unigolion penodol.”

Mae’r ddogfen yn tynnu sylw at gategori “cadarnhaol, y tu allan i gwmpas y prosiect, [sef] coffáu pobl o Gymru a wrthwynebodd gaethwasiaeth” ac yn rhestru’r emynydd William Williams Pantycelyn yn eu plith.