Mae archwiliad cenedlaethol a gyhoeddir heddiw, Tachwedd 26, yn dangos bod dros 200 o gerfluniau, adeiladau ac enwau strydoedd yn coffáu’r fasnach gaethwasiaeth yng Nghymru.

Yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bydd yr archwiliad yn darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen ar Gymru i “helpu i sefydlu darlun gonest o’n hanes.”

Fodd bynnag, canfu’r archwiliad, dan arweiniad Gaynor Legall, fod henebion sy’n coffáu pobol sy’n gysylltiedig â’r fasnach gaethwasiaeth yn aml yn cael eu dangos heb unrhyw ddehongliad cysylltiedig i fynd i’r afael â materion dadleuol.

Heb hyn, gallant gael eu cam-ddehongli fel modelau rôl yn unig yn hytrach na chynrychioli agweddau heriol o’r gorffennol.

Mae’r henebion dan sylw yn cynnwys:

  • 13 o henebion, adeiladau neu enwau strydoedd yn coffáu pobol a gymerodd ran yn y fasnach caethweision o Affrica
  • 56 o henebion, adeiladau neu enwau strydoedd yn coffáu pobol a oedd yn berchen ar blanhigfeydd neu fwyngloddiau a oedd yn defnyddio caethweision – neu a oedd yn elwa’n uniongyrchol arnynt
  • 120 o henebion, adeiladau, neu enwau strydoedd yn coffáu pobol a oedd yn gwrthwynebu diddymu’r fasnach gaethwasiaeth
  • 20 o henebion, adeiladau, neu enwau strydoedd yn coffáu pobol a gyhuddwyd o droseddau yn erbyn pobl dduon

Er bod yr archwiliad hefyd yn datgelu agweddau cadarnhaol o hanes Cymru, gan dynnu sylw at enghreifftiau o goffáu ymgyrchwyr yn erbyn caethwasiaeth ledled Cymru, prin iawn yw’r bobol o dreftadaeth Ddu neu Asiaidd sy’n cael eu coffáu ledled Cymru.

Gaynor Legall, arweinydd yr archwiliad

Ehangu ar wybodaeth pobol o hanes Cymru.

Dywedodd Gaynor Legall ei bod yn gobeithio bydd yr archwiliad yn ehangu gwybodaeth pobol o hanes Cymru.

“Rwy’n hynod falch o’r darn o waith hwn, am ei fod yn rhoi disgrifiad trylwyr a ffeithiol iawn o ran Cymru yn y Fasnach mewn Caethweision, ac yn ehangu ein gwybodaeth am hanes Cymru.

“Gobeithio y bydd yn arwain at blant yn dysgu’r hanes cyflawn gyda’i holl ffaeleddau.”

Sefydlu perthynas aeddfed â’n hanes

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau fis Mai daflu goleuni ar anghydraddoldeb hiliol ar draws y byd.

“Mae’r anghydraddoldeb hwnnw’n bodoli yng nghymdeithas Cymru hefyd a rhaid inni weithio tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal,” meddai.

“Er mwyn ein helpu i wneud hyn, mae arnom angen dealltwriaeth glir o etifeddiaeth y fasnach gaethwasiaeth a’r Ymerodraeth Brydeinig. Mae’r archwiliad hwn yn darparu tystiolaeth bwysig sy’n ein helpu i sefydlu darlun gonest o’n hanes.

“Nid yw hyn yn ymwneud ag ailysgrifennu ein gorffennol nac enwi pobol a chodi cywilydd. Mae’n ymwneud â dysgu o ddigwyddiadau’r gorffennol. Mae’n gyfle inni sefydlu perthynas aeddfed â’n hanes a dod o hyd i dreftadaeth y gall pob un ohonom ei rhannu.

“Dyma gam cyntaf mewn darn llawer mwy o waith a fydd yn ystyried sut symudwn ni ymlaen gyda’r wybodaeth hon, wrth inni geisio anrhydeddu a dathlu ein cymunedau amrywiol.”