Bydd cerflun i gofio am Betty Campbell, prifathrawes groenddu gyntaf Cymru, yn cael ei osod yng Nghaerdydd.
Daw’r cyhoeddiad ar ddiwedd pleidlais gyhoeddus i ddewis dynes arwyddocaol i gael ei choffáu fel rhan o ymgyrch ‘Merched Mawreddog’ BBC Cymru.
Bydd y cerflun yn cael ei osod yn Sgwâr Canolog y brifddinas – y cyntaf o’i fath mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored yn y wlad.
Hanes Betty Campbell
Cafodd Betty Campbell ei geni yn Nhre-biwt yn 1934, ac roedd â’i bryd ar fod yn athrawes.
Cafodd siom pan ddywedodd ei hathrawes wrthi na allai merch groenddu, dosbarth gwaith fynd yn bell yn y byd academaidd.
Ond roedd am brofi bod y ddamcaniaeth yn anghywir a daeth, maes o law, yn athrawes ac yna’n brifathrawes.
Mae disgwyl i’r cerflun gael ei ddadorchuddio y flwyddyn nesaf.