Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn croesawu’r cyhoeddiad fod Cymraeg ail iaith yn cael ei dileu, ond yn galw am drawsnewid y drefn bresennol o gyllido hyfforddiant i athrawon cyfrwng Cymraeg.
Fe ddaw ar ôl i fudiad Dyfodol i’r Iaith alw am £10m i hyfforddi athrawon cyfrwng Cymraeg.
Yn ôl RhAG, mae’r cyhoeddiad gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru, yn un “arwyddocaol”, ond maen nhw’n rhybuddio bod angen “chwistrelliad sylweddol o gyllid” ar gyfer hyfforddi athrawon er mwyn gwireddu’r weledigaeth.
“Does dim cynllun cydlynol ar hyn o bryd i hyfforddi athrawon newydd,” meddai David Williams, cadeirydd cenedlaethol RhAG.
“Mae angen strategaeth hirdymor ar fyrder, fydd yn amlinellu cynllun gweithredu ac yn gosod targedau tymor byr a chanolig er mwyn cynhyrchu’r gweithlu sydd ei angen.
“Mae angen hefyd amserlen a strategaeth fanwl o ran cyflwyno’r newidiadau mewn ysgolion unigol.”
Rhybudd rhag ’tanseilio neu wanychu ysgolion Cymraeg’
Wedi dweud hynny, mae RhAG hefyd yn rhybuddio bod angen sicrhau nad yw’r strategaeth sy’n cael ei hawgrymu’n “tanseilio neu wanychu ysgolion cyfrwng Cymraeg”, sef yr hyn maen nhw’n dweud yw’r “unig fodel cydnabyddedig sy’n llwyddo i roi dwy iaith yn gyfartal i bawb”.
“Dwyieithrwydd yw’r canlyniad a fynnwn: ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n cynnig yr amodau gorau i gyflawni hynny.
“Rhaid creu sefyllfa lle bydd nifer digonol o athrawon sy’n medru cyflwyno’r Gymraeg fel pwnc ynghyd â phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Felly rydym yn galw ar y Llywodraeth i fuddsoddi ar raddfa nas gwelwyd o’r blaen, er mwyn mynd ati o ddifrif i wireddu’r weledigaeth hon.”