Bydd yr heddlu’n defnyddio pwerau ychwanegol y penwythnos hwn i sicrhau bod pobol sy’n ymweld â chanol dinas Caerdydd yn dilyn cyfyngiadau’r coronafeirws.

Daw hyn ar ôl i Heddlu De Cymru ddechrau ymchwiliad wedi i fachgen 17 oed gael ei drywanu yn ardal Treganna yng Nghaerdydd ddoe (Tachwedd 25).

A llai nag wythnos yn ôl, bu digwyddiad treisgar arall yng nghanol y ddinas.

Er bod rheolau yng Nghymru wedi’u llacio, gyda chyfyngiadau teithio lleol yn cael eu dileu a lletygarwch ac adeiladau manwerthu bellach yn gallu agor, mae’r heddlu’n awyddus i atgoffa’r cyhoedd nad yw’r risg mae’r coronafeirws yn ei beri wedi diflannu.

Mae lle i gredu bod mwy o bobl wedi bod yn ymweld â Chaerdydd yn ddiweddar, o bosib gan fod rhannau eraill o Brydain dan glo.

Dywedodd Heddlu De Cymru y byddan nhw’n parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd ac amryw o bartneriaid eraill, gan gynyddu nifer y swyddogion ar ddyletswydd i annog cyfrifoldeb personol ac i sicrhau cydymffurfiaeth mewn tafarndai, bariau, bwytai a gwestai.

Yn ogystal, mae swyddogion wedi cael pwerau ychwanegol i gynnal archwiliadau cerbydau ar hap.

Bydd y pwerau ar gael i swyddogion yng Nghaerdydd rhwng 9yb a dydd Gwener (Tachwedd 27) a 5yh ddydd Sul (Tachwedd 29), a byddant yn eu galluogi i stopio unrhyw gerbyd er mwyn cynnal ymholiadau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bydd pobol sy’n torri’r rheolau yn wynebu dirwy a gorchymyn i adael y ddinas a dychwelyd adref.

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd i ni i gyd, a gyda’r rheolau wedi llacio ychydig, busnesau’n ailagor a’r Nadolig yn prysur agosáu, mae’n ddealladwy y bydd pobl am fynd allan a mwynhau,” meddai Jason Rees, Uwch-arolygydd Caerdydd a Bro Morgannwg.

“Rydym yn rhagweld penwythnos prysur arall yng nghanol ein dinas, ac er y byddwn yn parhau i fabwysiadu’r arddull blismona rydym wedi ei ddefnyddio drwy gydol y pandemig – gan weithio gyda’r cyhoedd i annog cydymffurfiaeth wirfoddol – rydym yn barod i weithredu mewn achosion lle mae’r rheolau’n amlwg yn cael eu torri.”