Mae’n “drueni mawr” bod Llywodraeth Cymru heb fanteisio ar raglen Ewropeaidd a lansiwyd i gynorthwyo ffermwyr trwy gyfnod yr argyfwng, yn ôl cynrychiolwyr undebau ffermwyr.
Ar Ebrill 2 mi lansiwyd ‘Ymdrech Buddsoddi yn Ymateb i Goronafeirws’ (CRII+) gan yr Undeb Ewropeaidd.
Wnaeth hynny alluogi hyblygrwydd a bu iddo symleiddio’r drefn wrth gael at Gyllid Buddsoddi Strwythurol (ESIF), a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).
Ac roedd hefyd wedi caniatáu estyniad o fis i’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau taliad CAP (Polisi Amaethyddol Cyffredin) i ffermwyr.
Manteisiodd Llywodraeth Cymru ar yr estyniad, ond ni fanteisiwyd ar y diwygiadau eraill, a bu swyddogion undeb yn rhannu’u hanfodlonrwydd am hynny gerbron pwyllgor Senedd heddiw.
“R’yn ni’n teimlo’n gryf y dylai’r Llywodraeth fod wedi manteisio ar y cyfle yma i gael yr arian yma mas i’r diwydiant pan oedd yr angen ar y mwya’,” meddai Huw Thomas, Cynghorwr Gwleidyddol Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru.
“A dw i’n credu nawr r’yn ni’n gweld, mae’n eironig onid yw e’, ein bod ni nawr mewn sefyllfa lle mae problemau wedi datblygu o achos y tanwariant yn y cynllun datblygu gwledig.
“Mae’n drueni mawr na achubwyd ar y cyfle ar y pryd i gael yr arian yna i’r diwydiant.”
Y doctor yn esbonio
“Mi ddoth yr hyblygrwydd yna i mewn dan reolau Ewrop, o ran y ffordd yr ydych yn medru gwario pres Ewrop sydd yn dal yn dod o Ewrop,” meddai Dr Nick Fenwick, Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru.
“Ac roedd yna un yn benodol lle’r oedd yn bosib rhoi fyny at €5,000 i ffermwyr allan o’r gronfa RDP [Polisi Datblygu Gwledig].
“A thrwy wneud hynny yn ogystal â helpu’r rheiny oedd yn dioddef o dan yr amgylchiadau anodd yma, byddwn i’n dadlau y byddai hynny hefyd wedi lleihau’r effaith negyddol o beth glywsom ni ddoe o ran datganiad Llywodraeth San Steffan ynglŷn â faint o bres fydd yn dod i amaeth flwyddyn nesa’.
“Achos mae hwnna wedi’i seilio ar faint o bres, i raddau, dydyn ni ddim wedi gwario yng nghyfnod y gyllideb bresennol Ewrop.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
“Cefnogodd Gweinidogion y sector llaeth yn gynharach eleni, mewn ymateb i effaith Covid-19, gyda phecyn cymorth domestig – yn hytrach na defnyddio mesur sefydlogi incwm Datblygu Gwledig yr UE. Nid oedd yn bosib darparu unrhyw gefnogaeth ymhellach heb ddad-ymrwymo gwariant arfaethedig, gydag effeithiau pellach ar yr arian sydd ar gael i ffermwyr a rheolwyr tir.
“Gwnaethom benderfyniadau dilys ar sut i broffilio gwariant y Cynllun Datblygu Gwledig i weddu i Gymru a chyflawni ein hamcanion. Ni ddylem gael ein cosbi am benderfyniadau – a gymerwyd flynyddoedd yn ôl – i’r pwynt lle gwelwn golled sylweddol ac annisgwyl i’r cyllid sydd ar gael i ffermio a datblygu gwledig.
“Mae’r fethodoleg a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU yn effeithio’n anghymesur ar Gymru, ac yn gwrth-ddweud eu haeriad na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i adael yr UE.”