Bydd Trafnidiaeth Cymru yn defnyddio mwy o staff na’r arfer y penwythnos hwn yn dilyn cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y gwasanaethau.
Dywedodd y cwmni fod nifer y teithwyr wedi bod yn cynyddu ers i’r cyfnod clo ddod i ben yng Nghymru, yn enwedig gyda’r nos ac ar y penwythnos.
Cafodd bron 200 o aelodau’r cyhoedd eu hatal rhag teithio gan staff Trafnidiaeth Cymru am beidio â gwisgo gorchudd wyneb ac am ymddygiad gwrthgymdeithasol y penwythnos diwethaf.
Ac mae staff wedi gorfod gofyn i fwy na 2,000 o bobl ar draws y gwasanaeth wisgo gorchudd wyneb, sy’n ofyniad cyfreithiol ar bob trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Mae Trafnidiaeth Cymru a’r Heddlu Trafnidiaeth yn annog pobol i gynllunio ymlaen llaw, a cheisio cael cyngor ar deithio er mwyn osgoi cyfnodau prysur.
“Hoffwn ddiolch i’r mwyafrif helaeth o bobl sy’n teithio ar ein trenau am fod mor gyfrifol – yn ogystal â staff Trafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain sy’n sicrhau bod pob teithiwr yn cyrraedd pen ei daith yn ddiogel,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
“Bydd cadw pellter wrth bobl eraill lle bo’n bosib a gwisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi’ch eithrio, yn helpu i atal y feirws ofnadwy hwn.”
Pobol yn “gwrthod cydymffurfio â’r rheolau”
Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Sicrwydd Trafnidiaeth Cymru: “Gan fod nifer y teithwyr wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn anffodus rydyn ni hefyd wedi gweld cynnydd bach mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobol yn gwrthod cydymffurfio â’r rheolau o ran gorchuddion wyneb.
“Hoffem dawelu meddwl ein cwsmeriaid ein bod wedi lleoli staff ychwanegol ar drenau ac mewn gorsafoedd, yn enwedig ar y penwythnos, gan helpu i gadw pawb sy’n defnyddio ein rhwydwaith yn ddiogel.
“Wrth i ni nesáu at gyfnod y Nadolig, rydyn ni’n cyflwyno hyd yn oed mwy o fesurau i helpu pobl nad ydynt yn ffit i deithio am eu bod wedi yfed gormod o alcohol.
“Mae hyn yn cynnwys cynnig seibiant i bobol agored i niwed, staff i gynnig dŵr iddynt, a’r defnydd o fannau gorffwys hyd nes eu bod yn ddiogel i deithio.”