Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu 25 o grantiau gwerth cyfanswm o £115,580 i grwpiau cymunedol BAME ar draws Cymru.

Bwriad y cyllid yw helpu i sicrhau bod lleisiau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu clywed wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd gweithio gyda sefydliadau’r trydydd sector a grwpiau cymunedol i ddenu ystod mor eang â phosibl o leisiau a safbwyntiau personol, yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei lunio ar y cyd â chymunedau BAME.

“Nawr yw’r amser i weithredu, ac i weithredu’n gyflym. Yma yng Nghymru, rydyn ni’n cymryd camau radical i drawsnewid profiadau dinasyddion BAME,” meddai Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, sy’n arwain y gwaith ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

“Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i wneud newid ystyrlon a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

“Bydd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn gosod fframwaith ar gyfer gwella cyfleoedd bywyd a chanlyniadau i ddinasyddion BAME yng Nghymru.

“Yn bwysicaf oll, bydd yn ein galluogi i wrando ar gymunedau BAME, clywed eu straeon, a defnyddio profiadau personol i adeiladu Cynllun a fydd yn newid diwylliant yng Nghymru.”

“Cam enfawr”

Sefydlodd Mymuna Soleman y Privilege Café rhithiol ar ddechrau’r pandemig, gan dderbyn £5,000 o gyllid gan y Grant Ymgysylltu â’r Gymuned.

“Bob wythnos, rwy’n cynnal sgwrs Zoom ar thema benodol gan annog y cyfranogwyr i siarad am eu profiadau. Mae’r diddordeb wedi bod yn anhygoel, gyda dros 200 o bobl yn bresennol mewn rhai galwadau,” meddai.

“Rwy’n credu y gellid defnyddio Covid-19, a’r digwyddiadau a sbardunwyd gan hiliaeth eleni, fel ysgogiad cadarnhaol ar gyfer newid, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

“Mae gwleidyddion yn dechrau cymryd anghydraddoldebau hiliol o ddifri. Rwy’n teimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi, a bod fy marn i, a barn fy nghymdogion, yn cael ei gwerthfawrogi.

“Mae’r cyllid grant hwn yn gam enfawr i mi, a fydd yn fy ngalluogi i, a’r rhai sy’n mynychu sgyrsiau’r Privilege Café, i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o gael gwared ag anghydraddoldebau. Rwy’n edrych ymlaen at gael gwneud hynny.”