Fe fu’n rhaid i staff George Eustice, un o weinidogion San Steffan, egluro’i sylwadau wrth iddo sôn am “barchu” safbwyntiau wrth drafod cefnogwyr pêl-droed Millwall.

Roedd yn ymateb i ffrae sydd wedi codi ar ôl i’r cefnogwyr fŵio eu chwaraewyr eu hunain am ‘gymryd y ben-glin’, sef y weithred o benlinio fel rhan o’r ymgyrch Black Lives Matter.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd fod y mudiad Black Lives Matter yn sefyll am rywbeth “gwahanol i’r hyn mae’r rhan fwyaf ohonom yn credu ynddo”, wrth gyfeirio at gefndir Marcsaidd y mudiad yn hytrach na’r ffaith fod y mudiad yn un gwrth-hiliaeth.

“Dw i’n gwybod yn amlwg fod mater hiliaeth a gwahaniaethu hiliol yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ei gymryd o ddifri,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday ar Sky News.

“Fy marn bersonol i yw fod Black Lives Matter – â phriflythrennau B, L ac M – yn fudiad gwleidyddol mewn gwirionedd sy’n wahanol i’r hyn mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei gredu, sef sefyll i fyny dros gydraddoldeb hiliol.

“Gall pob unigolyn wneud ei ddewisiadau ei hun ynghylch sut mae’n adlewyrchu hyn a dw i’n adnabod nifer o bobol sy’n teimlo’n eitha’ cryf ac wedi cymryd yr agwedd honno.”

Helynt ym Millwall

Dywedodd George Eustice wedyn nad oedd e wedi gweld yr hyn oedd wedi digwydd ym Millwall, ond fe aeth yn ei flaen i leisio barn.

“Fe fu problemau yn amlwg o ran hiliaeth yn y byd pêl-droed yn y gorffennol,” meddai.

“Mae’n briodol fod hyn yn cael ei alw allan a’i herio pan welwn ni fe.

“Does dim lle iddo yn y gymdeithas heddiw ac os yw pobol yn dewis mynegi eu barn mewn ffordd arbennig, dylid parchu hynny bob tro.”

Ond fe fu’n rhaid i’w staff egluro wedyn fod y defnydd o’r gair “parchu” yn cyfeirio at gymryd y ben-glin, ac nid at y penderfyniad i herio’r weithred ymhlith y dorf.