Wrth i gefnogwyr ddychwelyd i rai caeau yn Lloegr y penwythnos hwn, efallai y bydd ambell fricsen yn y Wal Goch yn dechrau breuddwydio am wneud yr un peth yng ngemau nesaf Cymru ym mis Mawrth.

Ond pwy fydd yn y garfan erbyn hynny tybed a sut hwyl a gawsant arni’r penwythnos hwn?

 

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Prin iawn a oedd y munudau i’r Cymry yn Uwch Gynghrair Lloegr y penwythnos hwn.

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Daniel James a Tyler Roberts ddydd Sadwrn, y naill i Man U yn erbyn West Ham a’r llall i Leeds yn Chelsea.

Nid oedd pethau’n fawr gwell ddydd Sul gyda Hal Robson-Kanu allan o garfan West Brom ac Ethan Ampadu yn parhau i fod yn absennol gydag anaf i Sheffield United. Caerlŷr a oedd gwrthwynebwyr y Blades ac yn ôl ar y fainc yr oedd Danny Ward iddynt hwythau yn dilyn ymddangosiad prin yng Nghynghrair Europa ganol wythnos.

Dechrau ar y fainc a wnaeth triawd Cymreig Spurs yn narbi gogledd Llundain yn erbyn Arsenal ddydd Sul hefyd. Aros arni a wnaeth Gareth Bale ond daeth Ben Davies a Joe Rodon ymlaen i gryfhau’r amddiffyn yn y munudau olaf wrth i dîm Jose Mourinho ennill o ddwy gôl i ddim i godi i frig y tabl.

Yr unig Gymro i ddechrau gêm yn yr Uwch Gynghrair trwy’r penwythnos a oedd Neco Williams i Lerpwl yn erbyn Wolves nos Sul. Chwaraeodd ei ran mewn buddugoliaeth gyfforddus cyn cael ei eilyddio am Trent Alexander-Arnold am chwarter olaf y gêm, pedair i ddim y sgôr terfynol.

 

 

Y Bencampwriaeth

Cododd Abertawe i’r pedwerydd safle yn y tabl gyda buddugoliaeth yn erbyn Luton ar y Liberty ddydd Sadwrn.

Sgoriodd Connor Roberts ei ail gôl mewn wythnos yn dilyn gwaith creu ei gyd Gymro, Liam Cullen, wedi dim ond dau funud.

Cadwodd Roberts lechen lân yn y pen arall hefyd, ynghyd â Ben Cabango wrth iddi orffen yn ddwy gôl i ddim o blaid yr Elyrch.

Chwaraeodd Tom Lockyer 90 munud i’r ymwelwyr ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Morrell unwaith eto. Roedd Rhys Norrington-Davies allan o’r garfan gyda mân anaf ar ôl chwarae a chreu un o goliau’i dîm mewn buddugoliaeth dda yn erbyn Norwich ganol wythnos.

Cododd Caerdydd i’r hanner uchaf wrth i’w rhediad da diweddar hwy barhau gyda buddugoliaeth yn Watford, rhediad sydd wedi cyd-fynd â phresenoldeb pedwar Cymro yn y tîm.

Dechreuodd Will Vaulks, Harry Wilson, Mark Harris a Kieffer Moore i’r Adar Gleision unwaith eto, gyda Moore yn sgorio unig gôl y gêm gyda hanner foli daclus toc cyn yr egwyl. Honno a oedd pumed gôl blaenwr Cymru mewn pum gêm i’w glwb wedi iddo rwydo dwywaith yn erbyn Huddersfield ganol wythnos hefyd.

Bournemouth sydd ar frig y Bencampwriaeth ar ôl rhoi cweir i Barnsley o bedair gôl i ddim nos Wener. Chwaraeodd Chris Mepham yng nghalon yr amddiffyn a gadwodd lechen lân ac roedd David Brooks yng nghanol pethau yn y pen arall unwaith eto.

Tîm arall sydd yn mynd i’r cyfeiriad iawn tua brig y tabl yw Stoke, sydd bellach yn bumed ar ôl curo Middlesbrough o gôl i ddim ddydd Sadwrn. Chwaraeodd James Chester a Morgan Fox yn yr amddiffyn.

Ym mhen arall y tabl roedd gêm gyfartal ddwy gôl yr un i Wycombe, gyda Joe Jacobson yn chwarae’r 90 munud ac Alex Samuel yn dod oddi ar y fainc am ychydig funudau ar ddiwedd y gêm.

Ac er i QPR golli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Huddersfield roedd mymryn o newyddion da i gefnogwyr Cymru wrth i George Thomas gael mwy o funudau, yn dod i’r cae fel eilydd yn gynnar yn yr ail hanner yr wythnos hon.

 

 

Cynghreiriau is

Chwaraeodd tri Chymro i Charlton wrth iddynt orfod bodloni ar gêm gyfartal yn yr Amwythig ddydd Sadwrn. Dechreuodd Chris Gunter fel cefnwr de ac wedi i Jonny Williams ddod i’r cae fel eilydd toc wedi’r awr fe gyfunodd y ddau yn dda i greu’r gôl agoriadol i Ben Watson.

Gwaethygu a wnaeth pethau i’r ddau wedi hynny. Er nad oedd hi’n ymddangos ei fod wedi’i anafu, cafodd Williams yr eilydd, ei eilyddio, gydag Adam Matthews yn gorffen y gêm yn ei le. Gunter ar y llaw arall a ildiodd y gic o’r smotyn a achubodd bwynt hwyr i’r Amwythig, yn llorio gŵr cyfarwydd iawn iddo, Dave Edwards.

Roedd rheolwr Charlton, Lee Bowyer, yn gandryll ar ôl y gêm, mae’n werth gwylio ei gyfweliad!

Roedd hi’n gêm ddarbi yn Fleetwood ddydd Sadwrn wrth iddynt groesawu Blackpool i Highbury ac roedd Cymry’n bresennol yn y ddau dîm. Methu a sgorio yn erbyn Chris Maxwell a oedd hanes Wes Burns a Ched Evans i Fleetwood wrth i’r ymwelwyr ennill o gôl i ddim. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Ben Woodburn i Blackpool.

Roedd dau Gymro ar y cae wrth i Ipswich deithio i Plymouth. Cadwodd Dave Cornell ei le yn y gôl i Ipswich ar ôl serennu yn erbyn Rhydychen ganol wythnos.

Ond ni allai’r Cymro wneud unrhyw beth i atal ei gydwladwr, Luke Jephcott, rhag agor y sgorio gyda tharan o ergyd yn y chwarter awr cyntaf. Dyna ei nawfed gôl o’r tymor a’i seithfed mewn wyth gêm ond nid oedd hi’n ddigon wrth i’r ymwelwyr daro nôl i gipio’r tri phwynt gyda dwy gôl hwyr.

Parhau y mae tymor llwyddiannus Lincoln. Maent yn ail yn y tabl ar ôl ennill yn Rochdale gyda Brennan Johnson yn chwarae eto.

Roedd buddugoliaeth i Matt Smith gyda Doncaster yn Northampton hefyd er mai dim ond hanner y gêm a chwaraeodd y Cymro.

Mae buddugoliaethau’n bethau llawer prinnach i Wigan ond fe gawsant un o gôl i ddim yn Sunderland y penwythnos hwn, diolch yn rhannol i berfformiad Tom James yn yr amddiffyn.

Ychydig funudau’n unig a gafodd Ellis Harrison wrth i Portsmouth guro Peterborough. Colli fu hanes Regan Poole gyda’r MK Dons yn Accrington Stanley a Dion Donohue gyda Swindon yn Gillingham.

Mae Casnewydd yn parhau ar frig yr Ail Adran. Chwaraeodd Brandon Cooper, Liam Shephard a Josh Sheehan ym muddugoliaeth yr Alltudion yn erbyn Morecambe gyda Sheehan yn ennill y gic o’r smotyn holl bwysig a enillodd y gêm yn hwyr i dîm Mike Flynn.

 

 

Yr Alban a thu hwnt

Cododd Hibs i’r trydydd safle yn Uwch Gynghrair yr Alban gyda buddugoliaeth o dair gôl i ddim yn erbyn Motherwell brynhawn Sadwrn. Dechreuodd Christian Doidge y gêm ar y fainc ond daeth oddi arni i sgorio ail gôl ei dîm yn y munudau olaf.

Nid oedd hi’n gystal diwrnod i Ash Taylor a Ryan Hedges wrth i’w tîm, Aberdeen, orfod bodloni ar gêm gyfartal yn erbyn y tîm ar y gwaelod, St Mirren.

Llithrodd Dunfermline o frig Pencampwriaeth yr Alban gyda gêm gyfartal yn y darbi lleol yn erbyn Raith Rovers; Owain Fôn Williams yn ildio ddwywaith cyn i’w dîm daro nôl i achub pwynt.

Ar ôl chwarae ychydig dros awr o fuddugoliaeth Juventus yn erbyn Dinamo Kiev yng Nghynghrair y Pencampwyr ganol wythnos, fe ddechreuodd Aaron Ramsey eto yn y darbi yn erbyn Torino yn Serie A ddydd Sadwrn. Ennill a wnaeth ei dîm ond roedd Rambo wedi gadael y cae cyn i’r ddwy gôl hwyr gael eu sgorio.

Colli fu hanes St. Pauli yn y 2. Bundesliga unwaith eto’r penwythnos hwn, yn erbyn Eintracht Braunschweig y tro hwn wrth i James Lawrence chwarae yng nghanol yr amddiffyn. Yn wir, nid yw’r tîm o Hamburg wedi ennill gêm ers i amddiffynnwr Cymru ail ymuno â hwy’n gynharach yn y tymor.

Chwaraeodd Robbie Burton ddeg munud olaf buddugoliaeth swmpus Dinamo Zagreb yn erbyn Slaven Belupo yn Uwch Gynghrair Croatia ddydd Sul. Roedd hi’n dair i un pan ddaeth y Cymro i’r cae cyn i’w dîm ychwanegu dwy arall yn y munudau olaf.

Mae Rabbi Matondo yn parhau i fod wedi ei anafau ac allan o garfan Schalke.

 

 

Gwilym Dwyfor