Mae asgellwr Cymru, Josh Adams, wedi dweud ei fod yn gallu deall y rhwystredigaeth sy’n gysylltiedig â Chymru ar ôl blwyddyn siomedig.

Dim ond tair gwaith mae tîm Wayne Pivac wedi ennill eleni, dwywaith yn erbyn yr Eidal, ac unwaith yn erbyn Georgia.

Fe gurodd Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon Gymru ddwywaith, tra bod yr Alban wedi curo Cymru oddi-gartref am y tro cyntaf er 2002.

Mae’n golygu na fydd Cymru’n cael ei rhestru ymhlith ffefrynnau i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf, ond mae Josh Adams yn ffyddiog y bydd pethau’n gwella i Gymru.

Pan ofynnwyd iddo raddio blwyddyn Cymru allan o 10, dywedodd Josh Adams: “Byddai’n 6.5, efallai? Gallai fod yn well yn bendant.

“Ar adegau mae wedi bod yn siomedig, ac rwy’n gallu deall rhwystredigaethau pawb, peidiwch â’m camgymryd.

“Yr hyn y buon ni’n siarad amdano pan ddaethon ni oddi ar y cae (yn erbyn yr Eidal) yw lle y dechreuon ni, a lle gwnaethon ni orffen, ac rwy’n credu y gall y rhan fwyaf o bobol gytuno ein bod wedi gwella.

“Mae gyda ni i gyd feysydd i wella, ac mae gofyn i ni wneud ein cryfderau yn gryfach.

“Oherwydd, yn y pen draw, pan ddaw diwedd mis Ionawr, mae’n gystadleuaeth (Chwe Gwlad) enfawr yn tydi?

“Dyna’r twrnament yn y calendr – yr un mawr. Bydd yn rhaid i ni ail-gydio yn lle gorffennon ni’r flwyddyn hon.

“Os bydd bechgyn yn chwarae’n dda i’w clybiau, yn sicr gallwn roi ein hunain mewn sefyllfa dda erbyn y Chwe Gwlad.”

Honnodd prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, fod y rhan fwyaf o’i garfan “ymhell ar ei hôl hi” o ran lefelau ffitrwydd pan wnaethant ymgynnull ym mis Hydref.

“Doedden nhw ddim wedi dod allan o rygbi clwb yn rhy dda, a dweud y gwir,” meddai.

Ac ychwanegodd Josh Adams: “Rwy’n cytuno â’r hyn a ddywedodd [Wayne Pivac], ein bod ychydig ar ei hôl hi.”

“Ry’n ni wedi gweithio’n eithriadol o galed dros wyth wythnos ddiwethaf, ac fel y dywedodd [Wayne Pivac] cyn i ni adael yr ystafelloedd newid, rydym wedi codi ein ffitrwydd i lefelau gemau prawf nawr.

“Mae’r bechgyn yn edrych yn dda iawn, yn heini, yn gryf, mae’r mwyafrif ohonom yn iach, felly mae hynny’n beth da.”