Bydd Cymru yn herio Gwlad Belg am y tro cyntaf ers i ddynion Chris Coleman eu trechu ym Mhencampwriaeth Ewro yn 2016 yn rowndiau cymhwyso Cwpan y Byd 2022.

Cafodd grwpiau cymhwyso Cwpan y Byd Ewrop eu datgelu heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 7), gyda’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Qatar yn 2022.

Roedd Cymru yn yr ail botyn, ar ôl codi i’r 18fed safle yn safleoedd swyddogol FIFA.

Y timau yng ngrŵp Cymru yw:

  • Gwlad Belg
  • Cymru
  • Y Weriniaeth Tsiec
  • Belarws
  • Estonia.

Mae’n sicr yn grŵp cystadleuol, ond yn un y bydd Cymru’n debygol o deimlo’n hyderus amdano.

Os na fydd Cymru’n cymhwyso o’r grŵp, maen nhw eisoes bron yn sicr o le yn y gemau ail-gyfle, gan eu bod wedi ennill dyrchafiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Rheolwr dros dro Cymru, Robert Page, oedd yn llenwi esgidiau Ryan Giggs wrth i’r enwau ddod allan o’r het, wrth i ansicrwydd barhau ynghylch dyfodol y rheolwr.

“Gwlad Belg yw’r tîm sy’n sefyll allan ar unwaith, ond os edrychwch ar y pedair gêm ddiwethaf mae gennym record dda yn eu herbyn,” meddai Page.

“Hoffwn feddwl y byddan nhw’n edrych arnom ni fel cenedl sy’n symud ymlaen.

“Byddan nhw’n gwbl ymwybodol o’n canlyniadau a byddan nhw’n edrych arnom ni gydag ychydig mwy o barch efallai.

“Mae’r Weriniaeth Tsiec yn chwarae’n dda ac maent bob amser yn wrthwynebwyr anodd.

“Fe wnaethon ni chwarae Belarws (mewn gem gyfeillgar) ychydig dros 12 mis yn ôl, dyma oedd fy ail gêm gyda’r tîm cyntaf a chawsom ganlyniad cadarnhaol.

“Mae’n rhaid i ni ddangos yr un parch i bob tîm, boed yn Estonia, Belarws neu Wlad Belg.

“At ei gilydd mae’n grŵp braf. Lefelau perfformiad fydd yn bwysig ac os ydym yn cynnal hynny, yna dylem fod yn iawn.”

Gweddill y grwpiau ac esboniad o’r broses

Mae 10 grŵp o 5 neu 6 thîm (gyda’r 4 tîm wnaeth gyrraedd Rowndiau Terfynol Cynghrair y Cenhedloedd yn cael eu rhoi yn y grwpiau llai), fel a ganlyn:

Grŵp A Portiwgal, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Luxembourg, Azerbaijan
Grŵp B Sbaen, Sweden, Groeg, Georgia, Kosovo
Grŵp C Yr Eidal, Y Siwstir, Gogledd Iwerddon, Bwlgaria, Lithuania
Grŵp D Ffrainc, Wcrain, Ffindir, Bosnia, Kazakhstan
Grŵp E Gwlad Belg, Cymru, Y Weriniaeth Tsiec, Belarus, Estonia
Grŵp F Denmarc, Awstria, Yr Alban, Israel, Ynysoedd Faroe, Moldova
Grŵp G Iseldiroedd, Twrci, Norwy, Montenegro, Latvia, Gibraltar
Grŵp H Croatia, Slofacia, Rwsia, Slofenia, Cyprus, Malta
Grŵp I Lloegr, Gwlad Pwyl, Hwngari, Albania, Andorra, San Marino
Grŵp J Yr Almaen, Romania, Gwlad yr Iâ, Gogledd Macedonia, Armenia, Liechtenstein

Bydd enillwyr y grwpiau yn cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Bydd 2 o’r enillwyr grŵp gorau o Gynghrair y Cenhedloedd, a fydd y tu allan i ddau uchaf eu grŵp cymhwyso Cwpan y Byd, yn ymuno â’r 10 a ddaeth yn ail yn eu grŵp.

Yna, bydd y 12 tîm hyn yn cael eu tynnu i dri llwybr chwarae, gyda rownd gynderfynol a rownd derfynol, gyda’r 3 enillydd llwybr yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.