Mae prif gyrff chwaraeon Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn ei hannog i ganiatáu i gefnogwyr fynd yn ôl i stadimyau ac atal y “risg wirioneddol o fethdaliad i’n campau”.

Mae’r llythyr at Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn gofyn iddo ailystyried ei safiad na fydd cefnogwyr yn cael dychwelyd i chwaraeon yn ystod pandemig coronafeirws.

Mae rhai cefnogwyr chwaraeon yn Lloegr wedi cael dychwelyd yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda chapasiti yn Haen 1 yn uchafswm o 4,000 ac ardaloedd Haen 2 yn hanner hynny.

Ond mae cefnogwyr yng Nghymru, fel ardaloedd Haen 3 yn Lloegr, yn cael eu gwahardd rhag mynychu digwyddiadau chwaraeon, ac mae cynrychiolwyr criced, pêl-droed, rasio ceffylau a’r undeb rygbi wedi uno i alw am newid gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r 15 sefydliad sydd wedi llofnodi’r llythyr, yn cynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Mae’r llythyr, sydd i’w weld ar wefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn dweud:

“Mae chwaraeon yn rhan sylfaenol o fywyd yng Nghymru. Mae’n rhoi ein cenedl ar y llwyfan byd-eang ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth i gymunedau ledled Cymru.

“Rydym yn rhan o ddiwydiant sy’n cyflogi miloedd o bobl ledled y wlad, mae ein cyfraniad i economi, cyflogaeth a lles Cymru yn sylweddol, ond mae hyn bellach mewn perygl.”

Canllawiau

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei dull o ddychwelyd cefnogwyr […] i’n meysydd chwaraeon drwy dderbyn canllawiau presennol yr Awdurdod Diogelwch Meysydd Chwaraeon (SGSA) a elwir yn ‘SGO2’ a thynnu’n ôl yr amrywiolyn ‘SG02W’ y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdano.”

Mae’r llythyr yn dweud bod cyfarfod wyneb yn wyneb a rhithwir wedi’i gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Dachwedd 30 i ystyried dychwelyd cefnogwyr i stadiymau.

Mynychodd Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr Undeb Rygbi Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, rhanbarthau rygbi Cymru, criced Morgannwg, rasio ceffylau a chlybiau pêl-droed proffesiynol Cymru.

“Gan gymryd ymagwedd fwy gofalus, gofynnodd Llywodraeth Cymru i’r SGSA baratoi fersiwn o SG02 yn seiliedig ar bellter cymdeithasol o ddau fetr,” ychwanega’r llythyr.

“Mae drafft (SG02W) wedi’i dderbyn a’i ddosbarthu, ond heb ei gyhoeddi.”

“Diffyg ymgynghori”

“Rydym ni fel grŵp o gyrff llywodraethu cenedlaethol ac uwch-glybiau yn annog tynnu’r drafft hwn yn ôl a bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo SG02, sy’n [ganllawiau] uchel eu parch, ac wedyn yn caniatáu i ddigwyddiadau prawf gael eu cynnal gan ddefnyddio’r canllawiau hyn, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal cyn gynted â phosibl.

“Rydyn ni’n dweud hyn oherwydd er bod SG02 yn lleihau’r presenoldeb disgwyliedig i rhwng 25% a 35% o’r capasiti yn dibynnu ar […] gynlluniau stadiwm, byddai’r fersiwn Gymreig yn lleihau’r capasiti ymhellach i dan 10%, lefel sydd i bob pwrpas yn cau ein busnesau i’r cyhoedd am gyfnod amhenodol.

“Yn y cyfarfod, roedd pob sefydliad chwaraeon wedi’i siomi’n fawr gan y diffyg ymgynghori ymlaen llaw ac roedd y sefyllfa sefydledig a fabwysiadwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfarfod yn peri pryder llawn i ni.

“Mae’r sefyllfa’n ddifrifol; mae’r diffyg map clir ar gyfer dychwelyd gwylwyr yng Nghymru yn peri’r risg wirioneddol o fethdaliad i’n chwaraeon.”

Andrew RT Davies yn “adleisio’r sylwadau a wnaed gan y clybiau a’r cyrff chwaraeon”

Dywedodd llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AoS: “Mae gan Gymru dreftadaeth chwaraeon balch a dyma asgwrn cefn ein cymunedau ledled y wlad.

“Mae wedi bod yn flwyddyn hynod o rwystredig i chwaraeon Cymru, ac mae hyn ond yn dwysáu wrth i’n clybiau elît weld cefnogwyr yn dychwelyd dros y ffin…

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn mynnu gwneud popeth yn wahanol heb lawer o lwyddiant ac mae’n dod ar gost sylweddol sy’n peryglu dyfodol clybiau a chwaraeon yng Nghymru.

“Rwy’n adleisio’r sylwadau a wnaed gan y clybiau a’r cyrff chwaraeon ac yn erfyn ar y Llywodraeth Lafur i gyhoeddi map clir ar frys ar gyfer dychweliad gwylwyr yng Nghymru.”