Bydd pobol yn dechrau derbyn brechlyn coronafeirws yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth, Rhagfyr 8).

Cyrhaeddodd y brechlynnau y wlad yr wythnos ddiwethaf, ac mae digon ar gael yn y lle cyntaf i ryw 20,000 o bobol.

Mae asiantaeth reoleiddio meddyginiaethau a gofal iechyd MHRA eisoes wedi cymeradwyo’r defnydd o’r brechlyn Pfizer-BioNTech, ac fe fydd cyflenwadau Cymru’n ddibynnol ar y boblogaeth.

Bydd staff cartrefi gofal yn cael eu brechu yn y lle cyntaf, ynghyd â phobol dros 80 oed a gweithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd, gyda hyd at 6,000 dos yn cael eu rhoi erbyn diwedd yr wythnos.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut fydd cyflenwadau’n cyrraedd cartrefi gofal gan fod angen storio’r brechlynnau o dan amodau arbennig sy’n anodd eu sicrhau.

Cefndir a gwybodaeth bellach

Er bod y rhaglen frechu’n dechrau, yr un yw’r cyngor i bobol o hyd i warchod eu hunain rhag y coronafeirws, sef:

  • sicrhau’r cyswllt lleiaf posib â phobol eraill
  • cadw pellter o 2 fetr oddi wrth bobol eraill
  • golchi dwylo’n rheolaidd
  • gwisgo mwgwd lle bo angen
  • osgoi cyffwrdd ag arwynebau sydd wedi’u cyffwrdd gan bobol eraill

Bydd angen i bobol derbyn dau ddos o’r brechlyn, a bydd brechlynnau’n cael eu cadw ar dymheredd isel dros ben mewn canolfannau penodedig yng Nghymru, sy’n ei gwneud hi’n anodd cludo’r brechlynnau i leoliadau eraill gan gynnwys cartrefi gofal.

Bydd rhagor o wybodaeth am frechu mewn cartrefi gofal ar gael maes o law, ac mae pobol sy’n gaeth i’w cartrefi’n cael eu hannog i aros am y brechlyn nesaf.

Wrth i frechlynnau eraill gael eu cymeradwyo, bydd mwy o bobol yn cael cynnig brechlyn.

Bydd pobol yn derbyn gwybodaeth a gwahoddiad i gael brechlyn fesul carfan flaenoriaeth, ynghyd â manylion ynghylch ble i fynd a beth i’w wneud ar y diwrnod y byddan nhw’n cael eu brechu.

Mae pobol yn cael eu hannog i aros am wahoddiad gan y Gwasanaeth Iechyd yn hytrach na mynd at eu meddyg teulu neu fferyllydd.

Er gwaetha’r pryderon ynghylch pa mor gyflym mae brechlynnau wedi cael eu datblygu, mae arbenigwyr yn dweud eu bod nhw’n ddiogel, ac mai’r broses ariannu ac nid datblygu’r brechlyn ei hun sydd wedi cael ei chyflymu, a bod y treialon priodol wedi cael eu cynnal ar y raddfa a’r cyflymdra arferol.

Fydd y brechlyn ddim yn orfodol, a bydd pobol yn derbyn yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud penderfyniad, a bydd prosesau caniatâd trylwyr yn eu lle.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford, mae’r brechlyn yn cynnig “llygedyn o obaith” yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws.

“Yr wythnos ddiwethaf, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i dderbyn cyflenwadau o’r brechlyn COVID-19,” meddai.

“Heddiw, rwy’n falch iawn mai Cymru yw un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i ddechrau cyflwyno’r brechlyn i’w phobol.

“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd tu hwnt i ni i gyd.

“Mae’r brechlyn hwn yn llygedyn bach o olau ar ddiwedd twnnel hir a thywyll.

“Ond dydy’r ffaith bod brechlyn ar gael ddim yn golygu bod modd i ni roi’r gorau i’r holl arferion sy’n ein diogelu.

“Rhaid i ni barhau i wneud ein rhan i atal y coronafeirws rhag lledaenu: golchi dwylo yn rheolaidd, cadw pellter cymdeithasol, a gwisgo gorchudd wyneb lle bynnag y bo’n ofynnol i ddiogelu ein hunain ac eraill.”

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething, y brechlyn yw’r “newyddion cadarnhaol rydyn ni i gyd wedi bod yn aros amdano”.

“Gall gymryd nifer o flynyddoedd, degawdau hyd yn oed, i ddatblygu brechlynnau,” meddai.

“Mae’r ffaith bod brechlyn diogel ac effeithiol wedi cael ei ddatblygu mewn llai na blwyddyn yn deyrnged aruthrol i’r holl ymchwilwyr a gwyddonwyr ar draws y byd sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddod o hyd i frechlyn ar gyfer COVID-19.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio mor galed i baratoi ar ei gyfer.

“Heddiw, bydd y bobol gyntaf yng Nghymru yn derbyn y brechlyn.

“Dyma’r newyddion cadarnhaol rydyn ni i gyd wedi bod yn aros amdano.

“Nawr, byddwn yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gyflenwi’r brechlyn Covid-19 ar draws Cymru dros y diwrnodau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”