Mae darnau o Fil y Farchnad Fewnol sy’n peryglu datganoli a gafodd eu dileu gan yr Arglwyddi yn San Steffan wedi cael eu hailgyflwyno gan aelodau seneddol.

Mae’r llywodraethau datganoledig wedi bod yn rhybuddio bod y darnau hynny yn “cipio grym” oddi arnyn nhw, drwy ddychwelyd pwerau sydd wedi’u datganoli i San Steffan fel rhan o’r broses Brexit.

Mae’r trafodaethau rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn aflwyddiannus hyd yn hyn, ac mae’r cyfnod pontio ar gyfer Brexit yn dod i ben ar Ragfyr 31.

Mae’r ddeddfwriaeth yn amlinellu’r ffordd y bydd y Deyrnas Unedig yn masnachu y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a’r undeb dollau.

Deddfwriaeth ddadleuol

Yn wreiddiol, roedd y ddeddfwriaeth yn cynnwys adrannau oedd yn galluogi gweinidogion i anwybyddu’r Bil Ymadael, gan dorri cyfreithiau rhyngwladol, mewn ymgais i warchod y berthynas fasnachu rhwng Llywodraeth Prydain a Gogledd Iwerddon.

Fe wnaeth yr Arglwyddi ddileu rhannau helaeth o’r ddeddfwriaeth, ond mae aelodau seneddol bellach wedi penderfynu eu cyflwyno o’r newydd.

Dim ond un cymal oedd yn destun pleidlais, a chafodd hwnnw ei basio o 357 i 268, er bod tri aelod seneddol Ceidwadol wedi pleidleisio yn erbyn y llywodraeth.

Yn ôl Paul Scully, y Gweinidog Busnes, mae’r Llywodraeth yn awyddus i gadw’r cymalau fel y maen nhw hyd nes bod trafodaethau Brexit wedi dod i ben, ac y bydden nhw’n fodlon dileu neu ddiddymu tri chymal pe bai modd dod o hyd i ddatrysiad yn ystod y trafodaethau.

Ymateb

Yn ôl Ed Milliband, llefarydd busnes Llafur, mae’r helynt yn dangos nad oes modd ymddiried yn Llywodraeth Geidwadol Prydain.

Mae’n dweud bod y sefyllfa’n arwydd o “ddefnyddio’r brêcs cyn mynd dros ddibyn y clogwyn”, ac nad oes modd “canmol” y Llywodraeth am wneud hynny.

Mae Stuart McDonald, aelod seneddol yr SNP, yn dweud bod y ddeddfwriaeth “yn sathru ar ddatganoli” a bod ei hailgyflwyno’n “gywilyddus”.

Mae pryderon bod y ddeddfwriaeth yn gwasgu ar ryddid Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i wneud penderfyniadau ar feysydd datganoledig.

Mae’r Arglwyddi wedi cyhuddo San Steffan o geisio “cipio grym” drwy roi’r hawl i weinidogion i wneud penderfyniadau ariannol ledled y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit.

Bydd y Bil yn mynd gerbron yr Arglwyddi eto yfory (dydd Mercher, Rhagfyr 9), ac fe allen nhw ddileu’r cymalau dadleuol unwaith yn rhagor.