Mae Adam Price yn dweud ei fod yn falch o gael cymryd rhan mewn dadl rhwng arweinwyr gwleidyddol Cymru.

Bydd y ddadl yn cael ei darlledu gan BBC Cymru ar Ragfyr 16.

Fe fu arweinydd Plaid Cymru yn galw am ddadl yn yr hydref.

“Ar adeg pan fo Cymru’n wynebu storm berffaith o ran Covid a Brexit, mae’n hanfodol fod arweinwyr pleidiau’n cael y cyfle i graffu ar ddulliau ei gilydd,” meddai.

“Bydd sut rydym yn goresgyn y fath anawsterau ac yn creu Cymru Newydd sydd â chydraddoldeb wrth ei chalon yn thema ganolog yn etholiad 2021.

“Fel darpar Brif Weinidog, rwy’n falch o gael cynrychioli Plaid Cymru yn y Ddadl Arweinwyr ac yn edrych ymlaen at gyflwyno neges obeithiol a phositif i’r gynulleidfa.”