Bydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn teithio i Frwsel i gyfarfod ag Ursula von der Leyen, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, yr wythnos hon.

Daw hyn wedi i’r ddau siarad dros y ffôn nos Lun (Rhagfyr 7) a chydnabod fod “gwahaniaethau sylweddol” yn parhau am drefniadau masnachu.

Hyd yma, mae’r Arglwydd Frost, prif drafodwr Llywodraeth San Steffan, a Michel Barnier, prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, wedi methu â dod i gytundeb.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Boris Johnson ac Ursula von der Leyen y byddai eu prif drafodwyr a’u timau cynorthwyol yn paratoi trosolwg o’r gwahaniaethau i’w trafod yn y cyfarfod ym Mrwsel yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae adroddiadau yn y papur newydd The Times fod trafodaethau pysgota wedi arafu, a bod yr Undeb Ewropeaidd yn awyddus i gael cyfnod trosglwyddo o ddeng mlynedd, tra bod y Deyrnas Unedig am i hynny gael ei leihau i dair blynedd.

Amser yn brin

Ond prin yw’r amser sydd ar ôl erbyn hyn cyn diwedd y cyfnod trosglwyddo ar ddiwedd mis Rhagfyr.

Mae Michel Barnier wedi dweud wrth Aelodau o Senedd Ewrop mai dydd Mercher (Rhagfyr 9) yw’r dyddiad cau ar gyfer y trafodaethau, ond dywedodd Downing Street eu bod yn barod i barhau i drafod “cyn belled â bod gennym amser.”

Byddai’n rhaid wedyn i unrhyw gytundeb gael sêl bendith gan Dŷ’r Cyffredin a Senedd Ewrop yn ogystal â’i gymeradwyo gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn ymgynnull ym Mrwsel ddydd Iau (Rhagfyr 10).

Barod i ddileu tri chymal dadleuol

Yn y cyfamser, mae Michael Gove, Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, wedi cyfarfod â Maroš Šefčovič, y Comisiwn Ewropeaidd am drafodaethau ar wahân.

Dywedodd y Llywodraeth eu bod yn barod i ddileu tri chymal dadleuol o Fil y Farchnad Fewnol yn ymwneud â ffin Iwerddon, a hynny er i Aelodau Seneddol bleidleisio ddydd Llun i ailgyflwyno’r darnau.