Mae cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus wedi rhybuddio y gallai ei fwrdd iechyd weld “lefelau trychinebus” o achosion o’r coronafeirws dros y Nadolig os bydd heintiau yn yr ardal yn parhau i godi.
Dywedodd Dr Keith Reid o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ei fod yn ofni mai dim ond cyfyngiadau clo eto yng Nghymru cyn cyfnod y Nadolig fyddai’n ddigon i achub y system leol rhag cael ei “llethu” pe bai cyfraddau’n parhau i godi.
Daeth ei sylwadau wrth i achosion godi mewn 19 allan o 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Mae gan Gymru hefyd ei nifer uchaf erioed o gleifion coronafeirws mewn ysbytai – cyfanswm o 1,800 – yn ogystal â’r gyfradd heintio waethaf yn y Deyrnas Unedig, a hynny dim ond pedair wythnos ar ôl diwedd y cyfnod clo dros dro.
Ddydd Llun (Rhagfyr 7), dywedodd Dr Keith Reid: “Rydym ar foment dyngedfennol. Mae cyfraddau heintio ar y lefelau uchaf erioed ac mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan i reoli’r sefyllfa hon – a hynny’n gyflym.
“Os bydd heintiau’n parhau i godi ar y gyfradd bresennol yna heb gyfyngiadau cloi eto cyn y Nadolig bydd y system leol yn cael ei llethu.”
Castell-nedd Port Talbot, a gwmpesir gan fwrdd iechyd Bae Abertawe, sydd â’r gyfradd heintio uchaf yng Nghymru gyda 611.2 o achosion fesul 100,000 o bobl, gydag Abertawe ddim ymhell ar ei hôl yn y pendwerydd safle yng Nghymru, gyda 426.3 o achosion fesul 100,000.
Yn ôl ym mis Medi, dim ond 56 o achosion fesul 100,000 oedd yn Abertawe a dim ond 38 o achosion fesul 100,000 yn Castell-nedd Port Talbot.
“Gwneud y peth iawn”
Galwodd Dr Keith Reid ar y cyhoedd i gadw eu pellter oddi wrth eraill a “gwneud y peth iawn” er mwyn osgoi rhoi pwysau ychwanegol ar y system iechyd.
“Dydw i ddim eisiau bod yn sefyll yma o fewn y pythefnos nesaf yn dweud wrth bobl bod lledaeniad y feirws allan o reolaeth, bod gormod o bobl yn marw’n ddiangen ac na all gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ymdopi am lawer hirach,” meddai.
“Mae’n beth mawr i’w ofyn yr adeg hon o’r flwyddyn pan, ar ôl y math o flwyddyn rydyn ni wedi’i gael, rydyn ni i gyd eisiau bod gyda’n ffrindiau a’n teulu.
“Ond fy apêl i yw – ar ran meddygon, nyrsys a gweithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi bod yn llawn am gymaint o amser – stopiwch a meddyliwch.
“Mae gennym gyfle i osgoi trychineb posibl. Ond mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae.”
Dywedodd Dr Reid ei fod yn credu mai pobl yn cymysgu ag eraill mewn cartrefi, yn y strydoedd, ac yn y gwaith oedd y sbardun y tu ôl i’r cynnydd mewn achosion.
“Cyfnod tyngedfennol”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol cyngor Abertawe, David Howes, bod y galw am wasanaethau ysbytai a chymunedol “bellach yn dod yn fwy na’r adnoddau sydd ar gael i ni”.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, “rydym mewn cyfnod tyngedfennol”.
Galwodd Rob Jones, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyhoedd i “dynnu at ei gilydd ac ymwrthod â’r demtasiwn i gymysgu’n gymdeithasol”.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun (Rhagfyr 7), dywedodd Vaughan Gething mai Cymru oedd yr unig ran o’r Deyrnas Unedig lle nad oedd cyfraddau’r feirws yn gostwng ddiwedd mis Tachwedd.
“Os na welwn ostyngiad mewn derbyniadau coronafeirws mewn ysbytai, bydd angen i ni ystyried pa gamau y gallwn eu cymryd i warchod y Gwasanaeth Iechyd wrth i ni symud i’r Flwyddyn Newydd,” meddai.
Ddydd Llun, adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru am 2,021 yn rhagor o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru – y nifer uchaf a gofnodwyd am un diwrnod – gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 91,013.
Nododd hefyd ddwy farwolaeth arall, gan fynd â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 2,711.