Mae prosiect Cylch Caron, cynllun i ddod ag amrywiaeth o wasanaethau ynghyd mewn un man canolog ar gyfer Tregaron a’r ardaloedd gwledig cyfagos, wedi’i atal dros dro.

Daw hynny gan nad oedd hi’n bosibl cyflwyno “cynllun gofal ychwanegol arfaethedig ar gyfer Tregaron sy’n ariannol hyfyw o fewn y cyllid cyfalaf a’r refeniw oedd ar gael,” yn ôl datganiad.

Mae Bwrdd y Prosiect wedi gwneud y cyhoeddiad ar ran y tri phrif bartner, sef Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru (sydd bellach wedi’i hymgorffori yng ngrŵp tai Barcud).

“Testun gofid mawr ond yn gam angenrheidiol”

Bwriad y prosiect oedd darparu meddygfa un safle ar gyfer meddygon teulu, fferylliaeth gymunedol, clinigau cleifion allanol, cyfleusterau nyrsio cymunedol a gofal cymdeithasol, yn ogystal â thai gofal ychwanegol.

Ond wrth drafod y datblygiad diweddaraf, dywedodd Cadeirydd Bwrdd y Prosiect, Peter Skitt, ar ran yr holl bartneriaid:

“Mae hyn yn destun gofid mawr, ond yn gam angenrheidiol nawr fel y gall pob un ohonom ail-ganolbwyntio ar ddatrysiad cyraeddadwy i’r gymuned yn Nhregaron a’r cyffiniau.

“Bydd y cyngor a’r bwrdd iechyd yn gwneud asesiadau brys o unrhyw ddatrysiadau dros dro y gallai fod angen eu gweithredu wrth i ni adeiladu cynllun hirdymor.”

Meddai Prif Weithredwr Grŵp Barcud, Steve Jones:

“Mae datblygu cynllun tai gwasanaeth ac iechyd cymunedol arloesol ar y cyd mewn ardaloedd gwledig anghysbell fel Tregaron yn heriol, o ran cyflawni cynllun cynaliadwy, prisiau adeiladu wedi’u tendro sy’n fforddiadwy, a chostau gweithredol hyfyw.

“Gwnaed ymdrechion sylweddol gan bob un o’r partneriaid, gan weithio gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gwleidyddion lleol, a busnesau’r gymuned, i geisio cyflawni cynllun ariannol hyfyw i alluogi darparu gwasanaethau lleol a chartrefi hygyrch yn Nhregaron.

Yn anffodus, ni fu’n bosibl cyflawni cynllun ariannol hyfyw ar y safle arfaethedig presennol.”

Mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans wedi dweud y byddent yn parhau i ystyried “amryw opsiynau eraill” ar gyfer “darparu iechyd a gofal cymdeithasol” yn yr ardal.

“Ni fyddwn yn colli golwg ar y nod”

“Yr uchelgais yn ein strategaeth ddeng mlynedd yw model cymdeithasol integredig ar gyfer iechyd,” meddai Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore.

“Mae cynlluniau fel Cylch Caron, a’r rhai rydym eisoes wedi’u cyflawni mewn rhannau eraill o Geredigion, yn bwysig i ni gyflawni hyn.

“Ni fyddwn yn colli golwg ar y nod hwn a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r cyngor a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i ddatrysiad sy’n iawn i’r gymuned hon.”

Amlygwyd mewn datganiad gan Gyngor Sir Ceredigion bod y tri sefydliad yn parhau i fod yn ymrwymedig iawn i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol, ochr yn ochr â chartrefi fforddiadwy hygyrch o safon.

Byddant yn parhau i weithio gyda’r cynrychiolwyr cymunedol lleol yn Nhregaron, a Llywodraeth Cymru, i archwilio ffyrdd eraill o ddarparu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau hyn.