Mae cynlluniau arbennig i reoli tagfeydd traffig sy’n gysylltiedig â Brexit ger Porthladd Dulyn wedi’u datgelu.

Mae’r rhain yn cynnwys mwy o fylchau traffig, system rheoli ciwiau ar gyfer cerbydau nwyddau trwm ar draffordd yr M50 ger Dulyn, a chyfleusterau parcio lorïau ychwanegol ar draffordd yr M1, o’r brifddinas tua’r gogledd.

Porthladd Dulyn sy’n prosesu llawer iawn o nwyddau sy’n teithio drwy Gaergybi.

Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, wedi dweud y gallai tarfu ar borthladdoedd o ganlyniad i Brexit “amharu” ar gyflenwadau meddygol.

Bydd lorïau sy’n cyrraedd porthladd Caergybi yn gorfod teithio i Loegr i gael eu gwirio yn y cyfnod ar ôl Brexit, gan fod ymdrechion i ddod o hyd i safle ym Môn wedi bod yn aflwyddiannus hyd yma.

Dywedodd Gweinidog Trafnidiaeth Iwerddon, Eamon Ryan: “Beth bynnag sy’n digwydd yn y trafodaethau Brexit, bydd newidiadau mawr yn y ffordd rydym yn masnachu gyda’r Deyrnas Unedig o Ionawr 1.

“Mae’r cynllun rheoli traffig hwn, sy’n ganlyniad i gydweithio agos gan lawer o wahanol asiantaethau, wedi’i gynllunio i ddelio ag unrhyw dagfeydd a allai godi oherwydd lefelau uwch o wiriadau ym Mhorthladd Dulyn ac i leihau’r effaith ar dwnnel y porthladd, traffyrdd cyfagos a gweddill y ddinas.

“Rydym yn gwybod bod Brexit yn her i’n cludwyr ac rydym yn diolch iddynt am eu cydweithrediad wrth sicrhau bod ganddynt y dogfennau cywir i fynd i mewn i’r porthladd a’u bod yn dilyn y rhybuddion a’r arwyddion sy’n cael eu darparu.”

Bydd y cynlluniau hyn ar waith o Ionawr 1, er mwyn lliniaru’r effaith y gallai tagfeydd traffig sy’n gysylltiedig â Brexit eu cael ar Borth Dulyn a’r effeithiau posibl ar ddinas Dulyn, yn enwedig Twnnel y Porthladd sy’n cysylltu traffig â’r rhwydweithiau traffyrdd a’r system draffyrdd ei hun.

Mae’r cynllun rheoli traffig yn seiliedig ar system goleuadau traffig, gyda chynlluniau cyfathrebu cysylltiedig â chamau lliniaru.

Bydd hierarchaeth o ymyriadau gan asiantaethau swyddogol yn seiliedig ar lefel y tagfeydd sy’n effeithio ar Borthladd Dulyn, Twnnel y Porthladd, ffyrdd y ddinas, a’r M50/M1 ger y brifddinas.

Mae hyn yn cynnwys:

– Mwy o fylchau traffig wrth fynedfa Twnnel Porth Dulyn.

– System rheoli ciwiau ar gyfer cerbydau nwyddau trwm ar yr M50 tua’r gogledd o gyffordd M1/M50 ac ar yr M1 tua’r de.

– Capasiti parcio HGV ychwanegol mewn ardaloedd gwasanaeth traffyrdd ar yr M1 tua’r gogledd a’r de.

– Parcio HGV brys.

“Llawer yn poeni am effeithiau posibl ar eu busnes”

Dywedodd Gweinidog Gwladol Iwerddon, Hildegarde Naughton: “Mae llawer yn poeni am effeithiau posibl ar eu busnes.

“Ond bydd newidiadau mawr yn y ffordd rydym yn cynnal busnes ac mae’n rhaid i bob sector o’r gadwyn gyflenwi liniaru’r risgiau sydd o fewn eu rheolaeth eu hunain.

“Bydd yn rhaid i fewnforwyr, allforwyr, cludwyr a chwmnïau logisteg archwilio a mabwysiadu ffyrdd newydd o wneud busnes.

“Rydym yn gofyn i holl ddefnyddwyr y porthladd fod yn ymwybodol o’r ffaith bod potensial ar gyfer tagfeydd a rhoi sylw i arwyddion newydd a fydd ar waith i arwain traffig drwy unrhyw wyriadau a osodir.”

Darllen Mwy