Mae’r Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles yn dweud nad oes modd i Lywodraeth Cymru roi “atebion pendant” i fusnesau Cymru am y dyfodol hyd nes bod sefyllfa Brexit wedi cael ei datrys gan Lywodraeth Prydain.

Daw ei sylwadau ar raglen Sunday Politics Wales y BBC 25 diwrnod cyn i’r cyfnod pontio ddod i ben, ac wrth i gynrychiolwyr o Lywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd gynnal trafodaethau unfed awr ar ddeg er mwyn ceisio taro bargen ynghylch ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd.

“Fe ddylen ni fod mewn sefyllfa erbyn hyn i wybod beth rydyn ni’n paratoi ar ei gyfer, ac felly maint yr her sydd o flaen yr holl lywodraethau yw nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno cytundeb,” meddai.

“Felly pan ydyn ni’n siarad â busnesau yng Nghymru ac yn dweud, ‘Paratowch ar gyfer newid’ ac maen nhw’n dweud ‘sut olwg sydd ar y newid hwnnw?’, ar hyn o bryd allwn ni ddim rhoi ateb pendant ynghylch hynny.

“O ran ein paratoadau’n gyffredinol, rydyn ni fel llywodraeth wedi gwneud popeth allwn ni.

“Rhaid i ni gydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ystod o brosiectau, ystod o ffyrdd o baratoi, ac rydym yn amlwg yn edrych iddyn nhw weithredu ar sail eu hymrwymiad o ran hynny.

“Ond o’n safbwynt ni, rydyn ni wedi gwneud popeth allwn ni a byddwn ni’n parhau i wneud hynny.”

Porthladdoedd

Un o’r prif faterion mae Llywodraeth Cymru’n ceisio cael atebion yn ei gylch yw’r gwiriadau fydd yn cael eu cynnal ger porthladdoedd yn y gogledd a’r de-orllewin.

Ac mae Jeremy Miles yn rhybuddio y bydd oedi i gerbydau sy’n ceisio croesi ffiniau “oherwydd y dewisiadau mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’u gwneud”.

“Doedd dim rhaid i bethau fod fel hyn o reidrwydd, ond dyna sut fydd hi,” meddai wedyn.

“O’n safbwynt ni fel llywodraeth, rydyn ni wedi bod yn paratoi ar gyfer oedi i gerbydau ger porthladdoedd oherwydd cyfyngiadau newydd ger y ffin.

“Mae gyda ni gynlluniau i ddarparu stacio ar gyfer traffig, er enghraifft, yng Nghaergybi ac ar draws y gogledd.

“Mae hynny’n seiliedig ar amcangyfrif o’r hyn allai’r oedi fod.

“Oedi Llywodraeth Prydain yw’r amcangyfrifon hynny oherwydd mae’n fater i Lywodraeth y Deyrnas Uneig, felly bydd rhaid i ni gydweithio ar y pethau hynny.

“Fe wnaethon ni golli cryn dipyn o amser ar ddechrau’r flwyddyn pan allen ni fod wedi bod yn cydweithio ond chawson ni mo’n tynnu i mewn i bethau, ac rydyn ni wedi bod yn dal i fyny, os liciwch chi.

“Ond fe fydd oedi, ac mae gyda ni gynlluniau i reoli’r traffig o ganlyniad i hynny.

“Dyma oedi nad oedd angen iddi fod fel hyn, ac maen nhw’n ddewisiadau mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu gwneud.”

Gwiriadau yn Warrington / de Cymru

Mae’n dweud bod anfon cerbydau i Warrington ar ôl croesi’r ffin yng Nghymru’n “fater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig”.

“Nid gwiriadau Llywodraeth Cymru yw’r rheiny,” meddai.

“Fydd y gwiriadau mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am eu cyflwyno ddim yn dod i rym tan ganol y flwyddyn nesaf.

“Mewn perthynas â’r rheiny, rydyn ni wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Undig i gael safle ar y cyd fel y gallwn ni leihau’r oedi.

“Safle ym Môn yw hwnnw, mae’r trafodaethau hynny’n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd, ond y flaenoriaeth amlwg o’n safbwynt ni oedd sicrhau bod cyn lleied o oedi â phosib a bod y safle mor agos i’r porthladd â phosib.”

Mae’n dweud mai Llywodraeth Cymru yn unig fydd yn gyfrifol am wiriadau ym mhorthladdoedd y de.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi penderfynu y byddan nhw’n cynnal eu gwiriadau yn y porthladd felly mae’r safleoedd hynny’n rhai y bydd angen i Lywodraeth Cymru eu sefydlu,” meddai.

“Unwaith eto, bu hynny’n ddibynnol ar ystod o benderfyniadau sydd newydd gael eu gwneud ond rydyn ni’n gweithio’n galed i adnabod y safleoedd hynny nawr.

“Rydyn ni’n credu bod perygl gwirioneddol, yng ngogledd a de-orllewin Cymru, na fydd y trefniadau’n barod tan fis Gorffennaf y flwyddyn nesaf oherwydd yr oedi wrth ddewis y safleoedd, ac mae’r rheiny’n ddewisiadau mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’u gwneud yn ddiweddar iawn.

“Felly rydyn ni’n credu bod perygl gwirioneddol na fydd hynny’n digwydd ond rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i geisio bwrw’r dyddiad hwnnw.”